System Ddelweddu Chwyddo Macro
Mae’r system ddelweddu Meiji Chwyddo Macro yn addas ar gyfer gwaith delweddu maes golau llachar a samplau sydd yn mynnu delwedd lydan neu ddyfnder mawr o ran ffocws.
Er enghraifft:
- samplau mewn mowntiau cyfan (embryonau, larfâu, pryfaid ayyb)
- platiau meithriniad
- jelïau
- toriadau meinwe mawr
Mae’r system hwn ar gael i'w ddefnyddio gyda neu heb gymorth technegol.
Brand/model | System Ddelweddu Chwyddo Macro |
---|---|
Manylion | Addas ar gyfer gwaith delweddu maes golau llachar o samplau bychain megis mowntiau cyfan, platiau meithriniad, jelïau neu thoriadau meinwe mawr. |
Cyfleuster | Hwb Ymchwil Bioddelweddu |
Ysgol | Ysgol y Biowyddorau |
Mae’r teclyn yn cynnwys system lens archwilio-ficro Optem Zoom (chwyddo 0.52x - 6.5 x: cymhareb closio 1:12.5) ynghyd â chamera digidol lliw Jenoptik ProgRes CFscan. Mae gan y system ffynonellau goleuo LED trawsyrru a thrawol.
Mae modd i ddefnyddwyr mewnol gadw lle ar gyfer defnyddio’r offer drwy galendr Outlook ‘BIOSI – E/0.04 – Widefield Microscopy’.
Cliciwch yma i ddysgu sut i gadw lle trwy Outlook.
Bydd eich cais i ddefnyddio’r microsgop yn cael ei adolygu ac yna’i dderbyn/wrthod gan aelod o staff yr Hwb Bioddelweddu.
Cadwch at yr amser sydd wedi’i bennu. Bydd rhaid talu am yr amser sydd wedi’i gadw, o ddefnyddio’r offer neu beidio. Rhaid trefnu i ddefnyddio’r offer am o leiaf 1 awr.
Mae rhaid rhoi rhybudd o 24 awr fan lleiaf os ydych am ganslo. Os dydy’ch chi ddim yn dod i'r sesiwn a drefnwyd, bydd rhaid talu.
I gael manylion am gostau, cysylltwch â’r Hwb - bioimaginghub@caerdydd.ac.uk
Cyn defnyddio’r offer yn yr Hwb, mae rhaid i bob defnyddiwr gael hyfforddiant a chael eu cofrestru gan staff yr Hwb Bioddelweddu.
Er mwyn cydymffurfio gyda Pholisi Iechyd a Diogelwch Prifysgol Caerdydd, mae’n ofynnol bod unigolion yn derbyn hyfforddiant priodol cyn defnyddio offer delweddu yr Hwb Bioddelweddu a bod yn effro i’r risgiau sy’n ymwneud â’u defnyddio.
Os oes angen diweddaru eich hyfforddiant, rhowch wybod i aelod o staff wrth ichi gadw lle ar gyfer defnyddio’r offer a bydd modd inni ei gynnal cyn eich sesiwn.
Mae disgwyl i bawb sy’n defnyddio’r Uned Bioddelweddu ddilyn y canllawiau canlynol. Bydd y rheiny nad ydynt yn cydymffurfio yn colli eu hawliau mynediad:
- Dim bwyd na diod yn y cyfleuster.
- Ewch ag unrhyw wastraff gyda chi (gan gynnwys menig labordy) a chewch wared arno’n briodol y tu allan i'r cyfleuster – dydyn ni ddim yn gyfrifol am eich gwastraff.
- Mae perygl ichi faglu o adael cotiau a bagiau ar lawr yr ystafelloedd delweddu tywyll. Defnyddiwch fachau ar y drysau mewnol, neu gwell fyth, peidiwch â dod a nhw i'r cyfleuster.
- Peidiwch â defnyddio offer dydych chi ddim wedi’ch hyfforddi i'w defnyddio. Rhaid i bob defnyddiwr ddarllen yr asesiad risg priodol ar gyfer y gwaith priodol a’i ddeall.
- Mae rhaid gwneud yn siŵr bod pob dyfais storio data USB yn glir o unrhyw feirws cyn eu defnyddio yn unrhyw un o’n systemau.
- Ar ddiwedd eich sesiwn, sicrhewch fod y systemau’n cael eu diffodd yn gywir a’ch bod yn cofnodi eich oriau defnydd yn gywir yn y gronfa ddata.
Cysylltwch
Dr Anthony J Hayes
- hayesaj@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6611
Lleoliad
Sir Martin Evans Building
Rhodfa'r Amgueddfa
CF10 3AX