System dadansoddi cymalau K-Scan
Mae System Dadansoddi Cymalau K-Scan yn defnyddio synwyryddion sydd mor denau â phapur i roi data cywir i ddadansoddi cymalau mewn ffordd wrthrychol a meintiol.
Mae'n mesur pwysau, grym a’r ardal gyswllt rhwng esgyrn cymalog cyfagos er mwyn deall yn well sut mae’r rhain yn gweithio, yn ymgysylltu â’i gilydd ac yn llwytho.
Brand/model | Tekscan K-Scan. |
---|---|
Manylion | Dyma offeryn sy’n mesur sut mae arwynebau cyswllt esgyrn cymalog yn gweithio ac yn llwytho at ddibenion gwrthrychol dadansoddi cymalau. |
Cyfleuster | Cyfleuster Ymchwil Biofecaneg Gyhyrysgerbydol (MSKBRF) |
Ysgol | Yr Ysgol Peirianneg |
Yn sgil dyluniadau synhwyro lluosog gellir dadansoddi cymalau mewn sawl ffordd, megis yr ysgwydd, yr arddwrn, y pen-glin, y ffêr, a mwy. Cyflymder sganio hyd at 100 Hz.
Cysylltwch â’r Athro Cathy Holt, naill ai drwy e-bostio mskbrf@caerdydd.ac.uk neu drwy ffonio (0)29 2087 6436.
Bydd modd darparu costau a gymeradwyir yn amodol ar natur y defnydd.
Yn rhan o’r system ceir nodwedd gefnogaeth dechnegol ar sut i’w defnyddio a’i sefydlu. Bydd modd trafod gofynion unigol, yn ogystal â hyfforddiant a gynigir.
Cysylltwch
Professor Cathy Holt
- mskbrf@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6436
Lleoliad
Queen's Buildings - South Building
5 The Parade
Heol Casnewydd
CF24 3AA