Ewch i’r prif gynnwys

Gweithfan Cyfrifiadur Imaris

Pecyn meddalwedd ar gyfer rendro a dadansoddi blaengar ar gyfer setiau data microsgopeg 3D/4D.

Mae’r meddalwedd yn cynnwys y modiwlau canlynol:

  • MeasurementPro
  • Imaris Track
  • ImarisCell
  • Imaris Coloc
  • Imaris XT
  • Imaris Vantage
  • Imaris Filament Tracer

Mae’r cyfrifiadur ar gael ar gyfer mynediad o bell naill ar draws campws y Brifysgol neu drwy VPN. Am fanylion, cysylltwch â’r Hwb Bioddelweddu.

Brand/model Bitplane Imaris 9.9 for Cell Biologists
Manylion Gweithfan cyfrifiadur sy’n rhedeg Imaris 9.9 for Cell Biologists.
Cyfleuster Hwb Ymchwil Bioddelweddu
Ysgol Ysgol y Biowyddorau

Manylion technegol llawn ac enghreifftiau ar gael ar wefan Imaris

Imaris for Cell Biologists

Filament Tracer

Mae modd i ddefnyddwyr mewnol gadw lle ar gyfer defnyddio’r offer drwy galendr Outlook ‘BIOSI - Imaris PC Workstation’.

Cliciwch yma i ddysgu sut i gadw lle trwy Outlook.

Cadwch at yr amser sy wedi’i bennu. Bydd rhaid talu am yr amser sydd wedi’i gadw, o ddefnyddio’r offer neu beidio. Rhaid trefnu i ddefnyddio’r offer am o leiaf 1 awr.

Mae rhaid rhoi rhybudd o 24 awr fan lleiaf os ydych am ganslo. Os dydy’ch chi ddim yn defnyddio’r sesiwn a gadwyd, bydd rhaid talu.

I gael manylion am gostau, cysylltwch â’r Hwb Bioddelweddu – Bioimaginghub@caerdydd.ac.uk

Cyn defnyddio’r offer, mae rhaid i bob defnyddiwr dderbyn hyfforddiant a chael eu cofrestru gan staff yr Hwb Bioddelweddu.

Mae disgwyl i bawb sy’n defnyddio’r Uned Bioddelweddu ddilyn y canllawiau canlynol. Bydd y rheiny nad ydynt yn cydymffurfio yn colli eu hawliau mynediad:

  • Dim bwyd na diod yn y cyfleuster.
  • Ewch ag unrhyw wastraff gyda chi (gan gynnwys menig labordy) a chewch wared arno’n briodol y tu allan i'r cyfleuster – dydyn ni ddim yn gyfrifol am eich gwastraff.
  • Mae perygl ichi faglu o adael cotiau a bagiau ar lawr yr ystafelloedd delweddu tywyll. Defnyddiwch fachau ar y drysau mewnol, neu gwell fyth, peidiwch â dod a nhw i'r cyfleuster.
  • Peidiwch â defnyddio offer dydych chi ddim wedi’ch hyfforddi i'w defnyddio. Rhaid i bob defnyddiwr ddarllen yr asesiad risg priodol ar gyfer y gwaith priodol a’i ddeall.
  • Mae rhaid gwneud yn siŵr bod pob dyfais storio data USB yn glir o unrhyw feirws cyn eu defnyddio yn unrhyw un o’n systemau.
  • Ar ddiwedd eich sesiwn, sicrhewch fod y systemau’n cael eu diffodd yn gywir a’ch bod yn cofnodi eich oriau defnydd yn gywir yn y gronfa ddata.

Cysylltwch

Dr Anthony J Hayes

Email
hayesaj@cardiff.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6611

Lleoliad

E/0.03
Sir Martin Evans Building
Rhodfa'r Amgueddfa
CF10 3AX

Oriau agor

Ar gael i ddefnyddwyr o bell ar unrhyw adeg ac eithrio ar ddydd Mercher 09:00-17:00. Defnydd lleol ar gael Llun i Gwener 09:00-17:00.