GRAIL
Brand/model | MMGRA-30140601 |
---|---|
Manylion | Mae'r GRAIL yn cynnwys melin draed wedi’i hofferynnu ac iddi ddau felt, system recordio symudiadau ac amgylchedd realiti rhithwir cydamserol a thri chamera fideo. Mae dau felt i’r felin draed, gyda phlatiau grym integredig wedi'u gosod ar ffrâm symudiadau â dwy radd o ryddid. Mae mecanwaith harnais ynghlwm wrth y nenfwd ar gyfer diogelwch ac mae canllawiau ar bob ochr i'r felin draed. Mae sgrîn taflunio silindrog 180o o flaen y system gyda 3 thaflunydd wedi'u gosod ar y nenfwd i roi tafluniadau lens ongl lydan. Mae camerâu recordio symudiadau (isgoch) wedi'u gosod ar y nenfwd a'r wal. Caiff hwn ei gefnogi gan rac gweinydd sy'n dal cyfrifiadur D-Flow, cyfrifiadur recordio symudiadau, generadur delweddau (meddalwedd taflunydd), gweinydd fideo, switsh prif rwydwaith, switsh rhwydwaith fideo, KVM (fideo, switsh llygoden bysellfwrdd), Vicon lock+ a mwyhadur sain. Mae yna hefyd gabinet rheoli melin draed (MIC). Caiff hyn oll ei gyflawni gan y ddesg weithredu lle mae tri monitor, dau fysellfwrdd a chonsol gweithredu system. Mae'r feddalwedd yn cynnwys D-Flow, MoCap a Nexus. Mae'r GRAIL wedi'i integreiddio ag offer sy'n ein galluogi i fonitro lefelau gweithgaredd y cyhyrau (trwy electromyograffeg arwyneb) yn ystod symudiadau ac ysgogi nerfau neu gyhyrau’n drydanol neu roi ysgogiad trawsgreuanol magnetig (i’r ymennydd) wrth gerdded ar felin draed. |
Cyfleuster | Canolfan Ymchwil Cinaesioleg Glinigol (Labordy RCCK) |
Ysgol | Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd |
Cysylltwch
Dr Catherine Purcell
- purcellc2@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2251 0961
Lleoliad
Ty Dewi Sant
Ysbyty Athrofaol Cymru
Parc y Mynydd Bychan
CF14 4XN
Ysbyty Athrofaol Cymru
Parc y Mynydd Bychan
CF14 4XN