Ewch i’r prif gynnwys

Sganiwr Dwysedd Esgyrn (DEXA) amsugnofetreg pelydrau-X ynni deuol (DXA)

Mae DXA yn defnyddio ymbelydredd ïoneiddio dos isel i gynhyrchu delweddau o'r corff, yn bennaf yr asgwrn cefn meingefnol, y glun a’r pelfis i fesur dwysedd mwynau’r esgyrn (BMD) a chyfansoddiad mwynau’r esgyrn (BMC), sef dangosyddion pwysig osteoporosis a’r perygl o dorri asgwrn.

Mae'r Asesiad Diffiniad Uchel o’r Asgwrn Cefn (IVA-HD) yn y fan a’r lle yn gwella'r broses o ganfod torasgwrn cefn yn sylweddol. Mae BMD ochrol ar wastad y cefn yn ddull mwy sensitif o ganfod ymateb i therapi na dim ond BMD asgwrn cefn antero-posterior (AP).

Dyluniwyd y fraich gylchdroi C i sicrhau na fydd ail-leoli gan y claf yn digwydd. Oherwydd pelydrau’r gwyntyll gellir delweddu a mesur cyrff asgwrn cefn trabeciwlaidd yn glir, sef meinwe cyntaf yr asgwrn sy’n dangos dirywiad yn ogystal â’r ymateb cadarnhaol i therapi. Gellir gwneud sganiau o flaen y fraich ymhen 30 eiliad, a gellir sganio a dadansoddi'r radiws a'r wlna gyda'i gilydd neu ar wahân. Gellir sganio'r corff cyfan i werthuso BMD y sgerbwd cyfan mewn cyn lleied â 3.5 munud.

Oherwydd meddalwedd cyfansoddiad y corff mae modd gwerthuso màs braster, màs main a chyfanswm màs y corff cyfan neu’r is-ranbarthau unigol. Gellir cyrchu mesuriadau BMD corff cyfan a chyfansoddiad y corff yn dilyn un sganiad y corff.

Mae'r Delphi yn arbennig o addas ar gyfer astudiaethau pediatrig sy’n gallu canfod asgwrn dwysedd isel iawn. Hefyd, gellir sganio anifeiliaid bach. Gellir mesur adamsugniad yr esgyrn o amgylch clun brosthetig i asesu statws yr esgyrn a hyfywedd y prosthesis. Gellir defnyddio'r sganiwr hefyd i asesu’r risg gardiofasgwlaidd, a thrwy hynny ddelweddu calcheiddio aortig abdomenol (AAC), sef dangosydd arwyddocaol o glefyd y galon a strôc.

Brand/model Cyfres Hologic – Vertec Discovery (Delphi-A) QDR.
Manylion Mae’r DXA yn defnyddio ymbelydredd ïoneiddio dos isel i gynhyrchu delweddau o'r corff i fesur dwysedd mwynau’r esgyrn (BMD) a chyfansoddiad mwynau’r esgyrn (BMC), yn ogystal â chyfansoddiad cyffredinol y corff.
Cyfleuster Cyfleuster Ymchwil Biofecaneg Gyhyrysgerbydol (MSKBRF)
Ysgol Yr Ysgol Peirianneg

  • Mesuriadau gwell o ran BMD - mae sganio llinol cyflym ar gydraniad uchel yn golygu bod modd rhoi canlyniadau BMD hynod fanwl yn gywiriach.
  • Delweddu Cydraniad Uchel â chaffael pelydrau gwyntyll “Go Iawn” - mae’r gwir belydryn gwyntyll yn galluogi delweddu un ynni cyflym ar gydraniad uchel, yn ogystal â mesuriadau dwysedd esgyrn ynni deuol trawych drwy ddileu gwallau gorgyffwrdd y pelydrau ac afluniad y delweddau.
  • Synwyryddion DXA Digidol diffinio uchel – gan ddefnyddio’r un dechnoleg a geometreg canfod delweddau yn systemau tomograffeg gyfrifiadurol (CT) o’r radd flaenaf.
  • Cyflymder ac ansawdd y delweddau - yn dal y glun a’r asgwrn cefn gan arwain at amser sganio rhanbarthol sydd mor gyflym â 10 eiliad. Mae’n well na chydraniad delweddu 1.8Lp/mm.
  • Asesu’r asgwrn cefn ar unwaith - delweddu’r asgwrn cefn cyfan ymhen 10 eiliad gan ddefnyddio un ynni chwim.
  • Cysondeb sganio - mae'r system yn cydweithio’n barhaus ac yn awtomatig, gan sicrhau canlyniadau manwl gywir o’r naill sganiad i’r llall.
  • Delwedd ProTM* - Mae prosesu delweddu digidol uwch yn gwella’r ffordd y byddwch chi’n gweld torasgwrn cefn.
  • E-Adrodd – Meddalwedd uwch sy’n dehongli ac yn adrodd o bell.
  • Dogn ymbelydredd isel - y dos effeithiol ar gyfer sgan corff cyfan yw 2-10 µSv sy'n llai na hanner y dos o belydryn-x safonol ar y frest 14 µSv, sy'n gyfwerth â gwerth diwrnod o ymbelydredd cefndir naturiol (Oatway et al. 2016).

Cysylltwch â’r Athro Cathy Holt, naill ai drwy e-bostio mskbrf@caerdydd.ac.uk neu drwy ffonio (0)29 2087 6436.

Bydd modd darparu costau a gymeradwyir yn amodol ar natur y defnydd.

Yn rhan o’r system ceir nodwedd gefnogaeth dechnegol ar sut i’w defnyddio a’i sefydlu. Bydd modd trafod gofynion unigol, yn ogystal â hyfforddiant a gynigir.

Dylid cadw at reoliadau IR(ME)R 2018 ac IRR 2017 bob amser wrth ddefnyddio’r cyfarpar. Ni ddylai unrhyw un sy’n cymryd rhan gael ei arbelydru heb i’r sganiad gael ei atgyfeirio’n gyntaf a’i gyfiawnhau yn unol â rheoliadau IR(ME)R 2017. Dylid nodi manylion hyn yn glir yng nghymeradwyaeth moeseg yr astudiaeth.

Cyn defnyddio'r sganiwr mae’n rhaid darllen rheolau ymbelydredd lleol yr adran. Bydd y rhain yn nodi'r holl weithdrefnau angenrheidiol y mae angen eu cyflawni cyn defnyddio'r sganiwr, yn ystod y sganiad ac ar ei ôl . Dylid cadw at reoliadau IR(ME)R 2018 a rheoliadau IRR 2017 bob amser.

Ni ddylid peri bod y sawl sy’n cymryd rhan yn dod i gysylltiad ag ymbelydredd at ddibenion ymchwil heb fod moeseg IRAS (REC) gadarn yn ei lle, a dylid cael moeseg hefyd gan yr Ysgol Peirianneg. Dylai pawb sy'n cymryd rhan gael gwybod yn llawn o'r hyn y bydd y weithdrefn yn ei olygu gan gynnwys unrhyw risgiau neu fanteision. Dylid rhoi'r cyfle iddyn nhw ddarllen taflen wybodaeth i gleifion a baratowyd ymlaen llaw a'i chymeradwyo, a rhoi'r cyfle iddyn nhw ofyn cwestiynau cyn rhoi eu caniatâd gwybodus i gymryd rhan.

Cysylltwch

Professor Cathy Holt

Email
mskbrf@cardiff.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6436

Lleoliad

T0.12
Trevithick Building
The Parade
Heol Casnewydd
CF24 3AA