Microsgop Cydffocal
Mae gan ein microsgop cydffocal amrywiaeth o laserau ar gyfer cynhyrfu fflworoffor yn fanwl gywir gan ganiatáu ar gyfer delweddu celloedd sefydlog a byw o dan amodau amgylcheddol neu hypocsig safonol.
Brand/model | Leica TCS SP5 Confocal Microscope |
---|---|
Manylion | Mae'r system yn cynnwys laserau deuod glas 405, Argon 488 a HeNe 543 a 633nm. Mae ganddo hefyd sganiwr soniarus ar gyfer caffaeliad cyflym (8000 llinell yr eiliad). Mae gan y system gam tymheredd ar gyfer perfformio delweddu rhwng tymheredd ystafell a 40˚C. Meddalwedd ar gyfer perfformio sganiau FRET, FRAP ac Allyriadau (sbectrosgopeg). |
Ysgol | Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol |
Amcanion: amcan aer x20, amcan olew x40 1.25NA, amcan olew x63 1.4NA, amcan olew x100 1.4NA. Mae laserau yn cynnwys: 405nm, 488nm, 543 nm, 633nm. Camau amgylcheddol.
I neilltuo’r cyfarpar hwn, ebostiwch Dean Routledge routledged1@caerdydd.ac.uk gan nodi’r canlynol:
- y cyfarpar yr hoffech chi ei gadw
- rhif yr ystafell y mae ynddi (Ystafell 0.10)
- y dyddiad a'r amser yr hoffech chi gadw’r cyfarpar
- faint o amser y bydd angen y cyfarpar arnoch chi
I ofyn cwestiynau technegol am y cyfarpar dan sylw, ebostiwch Denise Barrow barrowd@caerdydd.ac.uk
Cysylltwch
Professor Arwyn Jones
- jonesat@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6431
Lleoliad
0.10
Redwood Building
Rhodfa'r Brenin Edward VII
CF10 3NB
Redwood Building
Rhodfa'r Brenin Edward VII
CF10 3NB