Microsgop sganio laser cydffocal gyda stand gwrthdro
Mae’r microsgop sganio laser cydffocal wedi’i sefyldu o gwmpas stand gwrthdro microsgop (Leica DMIRE2). Mae gan y stand gwrthdro system fagwraeth Solent Scientific gyda rheolaeth tymheredd ar gyfer delweddu celloedd byw. Mae’r microsgop yn caniátau arsylwi epifflworoleuol a maes llachar.
Brand/model | System gydffocal Leica TCS SP2 AOBS |
---|---|
Manylion | Mae’r system SP2 yn cynnwys microsgop gwrthdro (Leica DMIRE2) gyda system reolaeth amgylcheddol Solent Scientific ar gyfer delweddu celloedd byw. |
Cyfleuster | Hwb Ymchwil Bioddelweddu |
Ysgol | Ysgol y Biowyddorau |
Mae gan y microsgop ystod o lensys gwrthrychol sy’n medru chwyddo delweddau rhwng 5x a 63x. Mae gan y system gydffocal SP2 7 llinell laser a 3 chanfodydd ffotoluosogydd sy’n cael eu rhedeg trwy feddalwedd Leica Confocal Software Suite. Mae’r feddalwedd yn cynnwys modiwlau ar gyfer ail-lunio ac animeiddio 3D/4D; sganio sbectrol, dadansoddi a meintoli cyd-leoleiddiad; dad-gymysgu sbectrol a llun-gannu (FRAP, FRET).
Lensys Gwrthrychol
- HC PL Fluotar 5x/0.15
- HC PL Fluotar 10x/0.30
- HC PL Fluotar 20x/0.50
- HCX PL APO 40x/1.25 olew
- HCX PL APO 63x/1.40-0.60 olew
Laserau
- Deuod 405nm (20mW)
- Argon aml-linell: 458/476/488/514nm (100mW)
- HeNe 594nm (1.5mW)
- HeNe 633nm (10mW)
Canfodyddion
- 3 ffotoluosogydd golau fflworoleuedd
Mae modd i ddefnyddwyr mewnol gadw lle ar gyfer defnyddio’r offer drwy galendr Outlook ‘BIOSI - Leica TCSSP2 Confocal’
Cliciwch yma i ddysgu sut i gadw lle trwy Outlook.
Bydd eich cais i ddefnyddio’r microsgop yn cael ei adolygu ac yna’i dderbyn/wrthod gan aelod o staff yr Hwb Bioddelweddu.
Cadwch at yr amser sydd wedi’i bennu. Bydd rhaid talu am yr amser sydd wedi’i gadw, o ddefnyddio’r offer neu beidio. Rhaid trefnu i ddefnyddio’r offer am o leiaf 1 awr.
Mae rhaid rhoi rhybudd o 24 awr fan lleiaf os ydych am ganslo. Os dydy’ch chi ddim yn dod i'r sesiwn a drefnwyd, bydd rhaid talu.
I gael manylion am gostau, cysylltwch Dr Ewan Fowler:
Dr Ewan Fowler
E-bost: FowlerED@caerdydd.ac.uk
Ffon: +442920874105
I gael manylion am hyfforddiant, cysylltwch Dr Ewan Fowler:
Dr Ewan Fowler
E-bost: FowlerED@caerdydd.ac.uk
Ffon: +442920874105
Er mwyn cydymffurfio gyda Pholisi Iechyd a Diogelwch Prifysgol Caerdydd, mae’n ofynnol bod unigolion yn derbyn hyfforddiant priodol cyn defnyddio offer delweddu yr Hwb Bioddelweddu a bod yn effro i’r risgiau sy’n ymwneud â’u defnyddio.
Yn ogystal, mae rhaid i ddefnyddwyr y microsgopau cydffocal sganio laser:
- Gael hyfforddiant gan aelod o staff yr Hwb Bioddelweddu (nid yw hyfforddiant anuniongyrchol gan ddefnyddwyr eraill yn ddigonol).
- Darllen yr Asesiad Risg diweddaraf ar gyfer yr Hwb Bioddelweddu a’i ddeall
- Llenwi ffurflen Cofrestru Gweithiwr Laser (Registration of Laser Worker form)
Os oes angen diweddaru eich hyfforddiant, rhowch wybod i aelod o staff wrth ichi gadw lle ar gyfer defnyddio’r offer a bydd modd inni’i gynnal cyn eich sesiwn.
Mae disgwyl i bawb sy’n defnyddio’r Uned Bioddelweddu ddilyn y canllawiau canlynol. Bydd y rheiny nad ydynt yn cydymffurfio yn colli eu hawliau mynediad:
- Dim bwyd na diod yn y cyfleuster.
- Ewch ag unrhyw wastraff gyda chi (gan gynnwys menig labordy) a chewch wared arno’n briodol y tu allan i'r cyfleuster – dydyn ni ddim yn gyfrifol am eich gwastraff.
- Mae perygl ichi faglu o adael cotiau a bagiau ar lawr yr ystafelloedd delweddu tywyll. Defnyddiwch fachau ar y drysau mewnol, neu gwell fyth, peidiwch â dod a nhw i'r cyfleuster.
- Peidiwch â defnyddio offer dydych chi ddim wedi’ch hyfforddi i'w defnyddio. Rhaid i bob defnyddiwr ddarllen yr asesiad risg priodol ar gyfer y gwaith priodol a’i ddeall.
- Mae rhaid gwneud yn siŵr bod pob dyfais storio data USB yn glir o unrhyw feirws cyn eu defnyddio yn unrhyw un o’n systemau.
- Ar ddiwedd eich sesiwn, sicrhewch fod y systemau’n cael eu diffodd yn gywir a’ch bod yn cofnodi eich oriau defnydd yn gywir yn y gronfa ddata.
Cysylltwch
Dr Ewan Fowler
- fowlered@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 4105
Lleoliad
Sir Martin Evans Building
Rhodfa'r Amgueddfa
CF10 3AX