Ewch i’r prif gynnwys

Deinamomedr isocinetig Biodex

Mae'r deinamomedr isocinetig hwn yn caniatáu gwerthuso cryfder, dygnwch, grym ac ystod mudiant yr holl brif gymalau a chyhyrau, gan roi canlyniadau data gwrthrychol hynod fanwl ynglŷn â’r perfformiad.

Brand/model Biodex System 4
Manylion Dyma offeryn sy’n mesur cryfder, grym, dygnwch ac ystod mudiant y cyhyrau a'r cymalau.
Cyfleuster Cyfleuster Ymchwil Biofecaneg Gyhyrysgerbydol (MSKBRF)
Ysgol Yr Ysgol Peirianneg
Manylion Biofecaneg, Adsefydlu, Rheoli Perfformiad ym maes Chwaraeon, Ffisiotherapi.

  • Ystod o foddau gan gynnwys y modd isocinetig, goddefol, adweithiol, isotonig, esgynnol.
  • Yn addas i'w ddefnyddio at sawl diben, boed yn athletwr neu’n blentyn.
  • Cyfuniadau diderfyn o dechneg a chymwysiadau e.e. y modd isocinetig - mewn mudiant parhaus sy’n cryfhau’r ddau fodd.
  • Mae’r cyflymu digyffwrdd yn dileu trawma ar y cyhyrau wrth gyflawni cyflymderau uchel sy'n cyfateb i swyddogaeth
  • Mae'r gallu i ddewis cyfangiadau consentrig (500 deg/eiliad) ac ecsentrig (300 deg/eiliad) yn golygu bod modd cynnal ymarferion plymetrig ar wahân.

Cysylltwch â’r Athro Cathy Holt, naill ai drwy e-bostio mskbrf@caerdydd.ac.uk neu drwy ffonio (0)29 2087 6436.

Bydd modd darparu costau a gymeradwyir yn amodol ar natur y defnydd.

Yn rhan o’r system ceir nodwedd gefnogaeth dechnegol ar sut i’w defnyddio a’i sefydlu. Bydd modd trafod gofynion unigol, yn ogystal â hyfforddiant a gynigir.

Cysylltwch

Professor Cathy Holt

Email
mskbrf@cardiff.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6436

Lleoliad

T0.13
Queen's Buildings - South Building
5 The Parade
Heol Casnewydd
CF24 3AA