Llwyfannau Grym Bertec x 2
Platiau grym wedi'u gwreiddio ac yn wastad â llawr y labordy, sy’n cael eu defnyddio’n arferol er mwyn dadansoddi cerddediad clinigol ac ymchwil neu gymwysiadau ym maes chwaraeon.
Mae eu ffurfweddiad wedi'u hoptimeiddio at ddibenion mesur grymoedd yn erbyn y traed wrth gerdded. Fodd bynnag mae modd eu symud o fewn y llawr i ystod eang o ffurfweddiadau er mwyn gweddu i'r dibenion ymchwil.
Brand/model | Llwyfannau Grym Bertec 4060-10-1000 |
---|---|
Manylion | Llwyfannau grym at ddibenion mesur symudiadau dynol. |
Cyfleuster | Cyfleuster Ymchwil Biofecaneg Gyhyrysgerbydol (MSKBRF) |
Ysgol | Yr Ysgol Peirianneg |
Manylion | Biomechanics, Rehabilitation, Sports Performance Management, Physiotherapy. |
Mae pob un o’r platiau grym yn cynnwys trawsddygiaduron llwyth mesurydd straen sy'n mesur chwe chydran yn union: tri grym orthogonol a'r momentau o amgylch pob echelin. Yn gysylltiedig â system Recordio Symudiadau Qualysis drwy fwyhawyr AM6800. Lled 400mm, hyd 600mm, llwyth fertigol uchafswm o 10,000N.
Cysylltwch â’r Athro Cathy Holt, naill ai drwy e-bostiomskbrf@caerdydd.ac.uk neu drwy ffonio (0)29 2087 6436.
Bydd modd darparu costau a gymeradwyir yn amodol ar natur y defnydd.
Yn rhan o’r system ceir nodwedd gefnogaeth dechnegol ar sut i’w defnyddio a’i sefydlu. Bydd modd trafod gofynion unigol, yn ogystal â hyfforddiant a gynigir.
Cysylltwch
Professor Cathy Holt
- mskbrf@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6436
Lleoliad
5 The Parade
Heol Casnewydd
CF24 3AA