Microsgop sganio sleidiau mewnbwn uchel wedi’i awtomeiddio
Ac yntau’n defnyddio dull sganio raster a ffocysu addasol, mae’r system yn caffael delweddau mosaic tra-fanwl yn gyflym, ar raddfa fawr ac ar gyfraddau ffrâm camera gan fanteisio ar feysydd delwedd dilyniannol ar draws samplau meinwe. Mae’r delweddau mosaic yn gweu yn un ddelwedd glir ar unwaith ac mae modd ei addasu’n hawdd naill i roi trosolwg tra-fanwl neu ar gyfer dewis darn o’r ddelwedd sydd o ddiddordeb penodol i'r defnyddiwr.
Mae llwythwr sleidiau, aml-hambwrdd robotig yn llwytho samplau i’r sganiwr mewn modd deallus sydd yn caniatáu iddo weithredu yn barhaus yn awtomatig.
Mae’r system yma ar gael i'w ddefnyddio gyda neu heb gymorth technegol. Mae rhaid i ddefnyddwyr dderbyn hyfforddiant cyn defnyddio’r system.
D.S. Does dim hawl storio ffeiliau data yn lleol ar y system yma – rhaid i ddefnyddwyr wneud trefniadau ar gyfer storio data mewn man arall.
Brand/model | System Sganio Sleidiau Olympus VS200 |
---|---|
Manylion | Mae’r microsgop yn medru cynnal gwaith sganio mewnbwn uchel a phwytho sleidiau cyfan o doriadau meinwe histolegol yn awtomatig gan ddefnyddio dulliau goleuo maes llachar, gweddgyferbyniol, maes tywyll, polar ac epifflworoleuedd aml-blecs (DAPI, FITC, Cy3 a Cy5). |
Cyfleuster | Hwb Ymchwil Bioddelweddu |
Ysgol | Ysgol y Biowyddorau |
System sy’n sganio sleidiau cyfan mewnbwn uchel sy wedi’i awtomeiddio yw’r VS200. Mae’n gallu creu delweddau cydraniad uchel naill drwy drawsyrru golau neu olau epifflworoleuedd.
Mae’n defnyddio llwythwr sleidiau deallus, cyflym, capasiti uchel sydd yn caniátau fformatau sleidiau aml-faint ac yn cynnig swp-sganio cyflym a dibynadwy.
Mae’r rhyngwyneb pwerus, sy’n rhedeg ar feddalwedd ‘dewin’ GUI, yn syml iawn i’w ddefnyddio, ac yn fodd i gael delweddau mewnbwn uchel yn awtomatig, heb drafferth.
Gwrthrychiaduron
- 2x/0.06: Plan Apo (sych)
- 4x/0.13 UPlan Fluo (sych)
- 10x/0.4 UPlan Extended Super Apo UPLXAPO (sych)
- 20x/0.8 UPlan Extended Apo (sych)
- 20x/0.5 UPlan Fluo Phase (sych)
- 40x/0.95 UPlan Extended Apo (sych)
- 60x/1.42 UPlan Extended Apo (olew)
- 100x/1.45 UPlan Extended Apo (olew)
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Mr Mark Bishop (bishopm@caerdydd.ac.uk; +44(0)29 2088 8512
I gael manylion am gostau, cysylltwch â:
Mr Mark Bishop
Ebost: bishopm@caerdydd.ac.uk
Ffôn: +44 (0)29 20688512
I gael manylion am hyfforddiant a chymorth, cysylltwch â:
Mr Mark Bishop
Ebost: bishopm@caerdydd.ac.uk
Ffôn: +44 (0)29 20688512
Cyn defnyddio’r offer yn yr Hwb, mae rhaid i bob defnyddiwr gael hyfforddiant a chael eu cofrestru gan staff yr Hwb Bioddelweddu.
Mae disgwyl i bawb sy’n defnyddio’r Uned Bioddelweddu ddilyn y canllawiau canlynol. Bydd y rheiny nad ydynt yn cydymffurfio yn colli eu hawliau mynediad:
- Dim bwyd na diod yn y cyfleuster.
- Ewch ag unrhyw wastraff gyda chi (gan gynnwys menig labordy) a chewch wared arno’n briodol y tu allan i'r cyfleuster – dydyn ni ddim yn gyfrifol am eich gwastraff.
- Mae perygl ichi faglu o adael cotiau a bagiau ar lawr yr ystafelloedd delweddu tywyll. Defnyddiwch fachau ar y drysau mewnol, neu gwell fyth, peidiwch â dod a nhw i'r cyfleuster.
- Peidiwch â defnyddio offer dydych chi ddim wedi’ch hyfforddi i'w defnyddio. Rhaid i bob defnyddiwr ddarllen yr asesiad risg priodol ar gyfer y gwaith priodol a’i ddeall.
- Mae rhaid gwneud yn siŵr bod pob dyfais storio data USB yn glir o unrhyw feirws cyn eu defnyddio yn unrhyw un o’n systemau.
- Ar ddiwedd eich sesiwn, sicrhewch fod y systemau’n cael eu diffodd yn gywir a’ch bod yn cofnodi eich oriau defnydd yn gywir yn y gronfa ddata.
Cysylltwch
Mr Mark Bishop
- bishopm@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2088 8512
Lleoliad
Hadyn Ellis Building
Heol Maendy
CF24 4HQ