Ewch i’r prif gynnwys

Adnoddau

Adnoddau i godi ymwybyddiaeth a lleihau’r stigma ynghylch cyflyrau iechyd meddwl atgenhedlol.

Taflenni

Mae gan y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl lyfrgell daflenni am ystod o gyflyrau iechyd meddwl.

Dyddiadur hwyliau

Traciwch eich symptomau dros ddau gylchred mislif gan ddefnyddio'r dyddiadur hwyliau hwn. Gall hwn gael ei ddefnyddio i fynd at eich meddyg.

Adnodd dyddiadur hwyliau

Mae hwn yn adnodd dyddiadur hwyliau y gallwch ei lenwi a mynd ag ef at eich meddyg teulu.

Fideos

Rhagor o wybodaeth am astudiaeth PreDDICT

Ydych chi eisiau gwybod mwy am PMDD a beth i'w ddisgwyl wrth gymryd rhan yn astudiaeth PreDDICT?

Gwyliwch y fideo hwn sy'n egluro mwy am Anhwylder Dysfforig Cyn y Mislif ac astudiaeth PreDDICT.

Gweminarau

Deall seicosis ôl-enedigol

Gwyliwch ein gweminar gyda’r Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl ac Action on Postpartum Psychosis

Diolch i Dr Sally Wilson a Zebunisa o Action on Postpartum Psychosis (APP) a rannodd eu profiadau personol yn ystod y weminar hon gyda’r Athro Ian Jones, cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl.

APP yw’r elusen genedlaethol ar gyfer menywod a theuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan seicosis ôl-enedigol. Diolch hefyd i'r Athro Arianna di Florio a rannodd y diweddaraf am ei hymchwil yn y maes hwn ac a lansiodd astudiaeth newydd ar Seicosis Ôl-enedigol.

PMDD: Mythau a chamsyniadau

Gwyliwch ein gweminar gyda’r Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl a IAPMD

Dysgwch gan ein hymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a’r siaradwr gwadd, Laura Murphy, Cyfarwyddwr Addysg ac Ymwybyddiaeth y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Anhwylderau Cyn y Mislif). Mae gan Laura brofiad byw o Anhwylder Dysfforig Cyn y Mislif (PMDD) ac mae hi'n rhannu ei stori yn y gobaith o godi ymwybyddiaeth o PMDD.

Yn ymuno â hi mae arweinydd y sesiwn, yr Athro Arianna di Florio, prif ymchwilydd y Rhaglen Iechyd Meddwl Atgenhedlol ym Mhrifysgol Caerdydd, a’r Cynorthwyydd Ymchwil, Chloe Apsey. Lansiodd Arianna a Chloe astudiaeth newydd ar PMDD ym mis Medi 2022 - PreDDICT (Anhwylder Dysfforig Cyn y Mislif - dangosyddion, achosion a sbardunau).

Cymerwch olwg ar ragor o weminarau gan Y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl.