Ewch i’r prif gynnwys

Mislif

Rydym yn gweithio tuag at well dealltwriaeth o anhwylder dysfforig cyn-misglwyf (PMDD) i leihau stigma a gwella triniaeth a diagnosis.

Ymchwil Anhwylder Cyn Mislif (PMDD)

Mae Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (PMDD) yn anhwylder hwyliau yr amcangyfrifir ei fod yn effeithio ar tua 5.5% o’r bobl sy'n cael mislif.  Yn ystod yr wythnos cyn dechrau gwaedu mislifol (a adwaenir hefyd fel y cyfnod lwteal), mae pobl â PMDD yn profi symptomau hwyliau difrifol sy'n gwneud gweithgareddau dyddiol yn anodd. Mae’r symptomau hyn yn dechrau gwella o fewn ychydig ddyddiau wedi i’r gwaedu misol (mislif) gychwyn.

Yn ôl meini prawf diagnosis Llawlyfr Diagnostig ac Ystadegol Anhwylderau Meddwlneu DSM5 ar gyfer PMDD, rhaid bod pump o'r prif symptomau yn bresennol ar gyfer mwy na dau gylch mislif sy'n effeithio'n ddifrifol ar weithrediad cymdeithasol a dyddiol

Y symptomau hyn yw:

  • iselder neu hwyliau hynod isel
  • gorbryder
  • llai o ddiddordeb mewn gweithgareddau arferol megis gwaith, ysgol, ffrindiau a hobïau
  • syrthni, blino’n hawdd neu ddiffyg egni
  • cysgu’n ormodol neu ddiffyg cwsg

Mae PMDD wedi'i gysylltu'n uniongyrchol â chylch y mislif, ond nid yw’n digwydd o ganlyniad i anghydbwysedd hormonau; yn hytrach credir ei fod yn adwaith negyddol difrifol i amrywiadau naturiol yr hormonau sy'n digwydd yn ystod y cylch.

Mae gwahanol opsiynau triniaeth ar gyfer PMDD, gan amrywio o newidiadau deietegol a maethol i feddyginiaethau i helpu i sefydlogi hwyliau. Gall effeithiolrwydd y triniaethau hyn amrywio, ac mae'n bwysig dod o hyd i'r dulliau gorau neu’r cyfuniad gorau o ddulliau, er mwyn helpu i reoli eich symptomau.

Ynglŷn â'r prosiect

Fel rhan o'r Rhaglen Iechyd Meddwl Atgenhedlol rydym yn cynnal y prosiect PreDDICT: Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif - Dangosyddion, Achosion a Sbardunau.

Nod y prosiect yw gwella dealltwriaeth o sut y gall ffactorau genetig ac amgylcheddol helpu i adnabod unigolion sydd mewn perygl.

Ein nod hirdymor cyffredinol yw helpu i wella'r dull presennol o gael diagnosis, atal, trin a chefnogi unigolion sy'n profi PMDD. Er mwyn gwneud hyn rydym hefyd yn ymgysylltu â phobl sydd â phrofiad byw o'r anhwylderau i ddefnyddio eu syniadau a'u mewnwelediadau.

Byddwn yn recriwtio cyfranogwyr sydd ar hyn o bryd neu sydd wedi profi symptomau PMDD neu PMS difrifol o'r blaen.

Gofynnir i gyfranogwyr lenwi holiadur 20 i 30 munud a fydd yn gofyn cwestiynau am iechyd meddwl, iechyd corfforol, a'ch profiad o PMDD. Yn ddiweddarach, byddwn yn ailgysylltu â chyfranogwyr sy'n dal i brofi symptomau ar hyn o bryd ac yn gofyn iddynt gwblhau dyddiadur monitro hwyliau am ddau fis yn olynol.

Gellir hefyd ailgysylltu â rhai cyfranogwyr gan eu gwahodd i ddarparu sampl genetig ar ffurf pecyn sbesial drwy'r post.

Cymryd rhan mewn ymchwil PMDD

Trwy gymryd rhan mewn ymchwil PMDD, gallwch ein helpu i ddysgu mwy am yr amodau hyn sy'n newid bywydau.

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i'n helpu gydag amrywiaeth o brosiectau ymchwil. Darllenwch fwy am ein hastudiaethau sy'n recriwtio ar hyn o bryd.

Cysylltu

Rhaglen Iechyd Meddwl Atgenhedlol