Menopause
Rydym yn gweithio tuag at well dealltwriaeth o salwch meddwl perimenopause i leihau stigma a gwella triniaeth.
Y perimenopos yw'r enw a roddir i’r cyfnod rhwng mislif olaf menyw a'r 12 mis dilynol heb ragor o fislifoedd.
Er bod y newid i'r menopos yn cael ei ystyried yn bennaf yn ffenomen atgenhedlu, mae tua 80% o fenywod yn profi symptomau niwroseiciatrig yn ystod y perimenopos. Mae tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn awgrymu bod y cyfnod hwn yn golygu bod risg uwch ynghlwm wrth ddatblygu neu waethygu anhwylderau seiciatrig.
Er bod diffyg tystiolaeth systematig i brofi salwch meddwl difrifol, mae’r elusen Action on Postpartum Psychosis ac adroddiadau achos yn dangos bod achosion seiciatrig difrifol wedi digwydd yn ystod y perimenopos yn achos menywod â hanes o seicosis ôl-enedigol, a bu hunanladdiad mewn nifer o achosion prin ond trychinebus.
Er gwaethaf pwysigrwydd a diddordeb cynyddol, ychydig a wyddom ar hyn o bryd am y cysylltiad rhwng anhwylderau seiciatrig a’r perimenopos.
Mae sefydliadau proffesiynol ledled y byd yn pwysleisio'r gwahaniaeth rhwng y rhywiau o ran ymchwil seiciatrig, gan arwain at brinder y dystiolaeth sy’n rhoi gwybod am y risg o brofi anhwylderau seiciatrig yn ystod cyfnod y perimenopos.
O ganlyniad, mae’r ffordd o feddwl am anhwylderau seiciatrig sy'n gysylltiedig â’r perimenopos, eu diagnosio a’u trin yn parhau i fod yn destun cryn ddadlau.
Gwybodaeth am y prosiect
Nod ein hastudiaeth bresennol yw meintioli’r risg o anhwylderau seiciatrig sy’n gysylltiedig â’r perimenopos.
Yn sgil ymchwiliad seico-gymdeithasol, clinigol a genetig cynhwysfawr, mae'r ymchwil hon yn ymdrechu i wella'r dull presennol o ddosbarthu, astudio, rhoi diagnosis, atal a thrin anhwylderau seiciatrig ymhlith menywod sy’n mynd trwy’r perimenopos.
Drwy ymchwilio’r berthynas rhwng newidiadau hormonaidd ac anhwylderau seiciatrig, rydym yn dymuno taflu goleuni ar yr agwedd hollbwysig hon ar iechyd menywod sydd hen gael sylw digonol.
Mae'r ymchwil rydym yn ei gwneud ar hyn o bryd yn defnyddio set ddata eilaidd (Banc Bio’r DU) ac nid ydym yn casglu data sylfaenol hyd yn hyn.