Mae RemakerSpace yn cynnig cyfle i ddysgwyr gymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau sy'n ymwneud ag ail-weithgynhyrchu, atgyweirio a chynaliadwyedd.
Mae ffocws y Ganolfan ar ymgysylltu trwy ddigwyddiadau a gweithdai arloesol, lle gallwn ymgysylltu â dysgwyr yn greadigol. Mae'n ffordd wych o ennill sgiliau ymarferol wrth gyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy.
Mae’r ystod eang o offer sydd ar gael yn RemakerSpace yn rhoi’r cyfle i’r Ganolfan gyflwyno gweithgareddau ymgysylltu ac allgymorth i ddysgwyr gymryd rhan arloesol i ddatblygu a gwella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r economi gylchol.
Sut rydyn ni yn gweithio gyda sefydliadau addysgol
Mae'r Ganolfan wedi cyflwyno gweithgareddau difyr yn llwyddiannus i ddysgwyr ar draws pob grŵp oedran. Dros y 12 mis diwethaf, rydyn ni wedi croesawu mwy na 500 o fyfyrwyr i'n Canolfan. Mae ein gweithdai rhyngweithiol, gyda phwyslais brwd ar ddylunio ac argraffu 3D, wedi ennyn diddordeb a chreadigrwydd ymhlith ein dysgwyr. Mae'r sesiynau hyn yn galluogi myfyrwyr i ryddhau eu dychymyg, cydweithio, a dyfeisio atebion arloesol i heriau'r byd go iawn.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu rhagor am ein sesiynau rhyngweithiol ac ymarferol i ddysgwyr, byddem yn falch iawn o rannu mwy o fanylion ac archwilio sut y gallwch gymryd rhan: