Ewch i’r prif gynnwys

Y Gymuned

Mae RemakerSpace yn cynnig amgylchedd deinamig, lle y gall grwpiau cymunedol gymryd rhan mewn dysgu ymarferol, creu, arbrofi ac atgyweirio.

Mae'r Ganolfan yn cynnig ystod eang o adnoddau i gefnogi gwahanol agweddau ar yr economi gylchol. P’un a ydych chi’n gwneud gwaith atgyweirio electronig, yn dylunio gwrthrychau wedi'u hargraffu yn 3D, neu'n gwneud gwaith atgyweirio tecstilau, gall pob unigolyn ddod i ddatgloi a dangos eu hochr greadigol a chael tipyn o hwyl ar yr un pryd.

Gweithgareddau

Yn rhan o'n gweithgareddau, rydyn ni’n trefnu grŵp cymdeithasol cyfeillgar a gynhelir bob mis, sef 'Gwau, Sgwrsio, Crefft a Chlonc'. Mae selogion crefft yn dod ynghyd i gyfnewid awgrymiadau, rhannu patrymau, a defnyddio peiriannau gwnïo domestig a diwydiannol y Ganolfan. Rydym hefyd yn cynnal gweithdai Atgyweirio Electronig, ac mae ein gweithgareddau'n plethu creadigrwydd gyda'i gilydd, dysgu, a phwyslais cryf ar yr economi gylchol.

A man working on a chipboard with a soldering iron.

Mae ein hystod amrywiol o adnoddau yn cefnogi gwahanol agweddau ar yr economi gylchol. Atgyweirio yn hytrach na thaflu, ailbwrpasu deunyddiau, ac ymestyn cylchoedd bywyd cynnyrch—dyma sydd wrth galon yr hyn a wnawn ni.

“Gyda Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), nododd Llywodraeth Cymru yn glir y sefyllfa ganolog sydd gan gynaliadwyedd i’n cenedl. Er bod Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig yn darparu'r un eglurder i'r gymuned ryngwladol. Mae RemakerSpace yn gweithio i gefnogi’r gwerthoedd hyn drwy roi cyfleoedd i ddiwydiant, cymunedau ac unigolion gael effeithiau cadarnhaol ar yr amgylchedd, gan gefnogi’n benodol y gwaith o sicrhau dyfodol ffyniannus, cydnerth ac iachach i bawb y mae Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Nodau Datblygu Cynaliadwy yn ceisio’u cyflawni.”
Yr Athro Rudolf Allemann Pro Vice-Chancellor, International and Student Recruitment and Head of the College of Physical Sciences and Engineering

Cysylltu

Os ydych chi'n awyddus i archwilio ymhellach a dysgu rhagor am ein cyfleusterau a'n sesiynau ymarferol, bydden ni wrth ein bodd yn rhannu gwybodaeth ychwanegol â chi, a’r ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan.

RemakerSpace