Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleoedd hyfforddi

Yn rhan o genhadaeth RemakerSpace i hyrwyddo cylcholdeb mewn cadwyni cyflenwi, rydyn ni’n cynnig cyfres fach o gyrsiau a gweithdai byr arbenigol, sy’n canolbwyntio ar ddylunio ac argraffu 3D, Gweithdai Arloesedd a Strategaethau Busnes Cylchol.

Nod y profiadau addysgol hyn yw gwella galluoedd a chraffter eich tîm, gan feithrin y broses o greu datrysiadau sydd wedi'u teilwra i fodloni amcanion a heriau cynaliadwyedd eich sefydliad.

Mae’r sesiynau hyn yn cael eu cyflwyno gan dîm RemakerSpace, sy'n cynnwys grŵp amlddisgyblaethol o academyddion, ymarferwyr ac arbenigwyr technegol. Mae ein cyrsiau wedi'u llunio i roi’r arbenigedd a'r sgiliau angenrheidiol i arloesi a rhagori ym meysydd argraffu 3D ac arferion gweithgynhyrchu cynaliadwy i’r rheini sy’n mynd iddyn nhw.

Gweithdai ar gael

Bydd y gweithdy undydd hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o weithgynhyrchu adiol (AM), gan gynnig taith tywys gynhwysfawr a chipolygon o’r broses, gan gynnwys dylunio ac ôl-brosesu.

Mae'r gweithdy hwn yn cynnwys:

  • trosolwg cynhwysfawr o dechnolegau, deunyddiau a chymwysiadau sy’n gysylltiedig â gweithgynhyrchu adiol
  • cipolwg ar y llif gwaith sy’n gysylltiedig ag argraffu 3D, o gynllunio gyda chymorth cyfrifiadur (CAD) i ôl-brosesu
  • taith estynedig o amgylch cyfleusterau labordy Prifysgol Caerdydd

Ar gyfer pwy mae hwn:

  • peirianwyr
  • dylunwyr
  • gweithwyr proffesiynol ym maes gweithgynhyrchu
  • arweinwyr busnes
  • rheolwyr
  • entrepreneuriaid
  • busnesau newydd

Manteision:

  • Dealltwriaeth Drylwyr
    • Cewch wybodaeth sylfaenol am wahanol dechnolegau gweithgynhyrchu adiol, gan gynnwys trosolwg o ddeunyddiau a chymwysiadau.
  • Arbenigedd Llif Gwaith
    • Cewch Gipolwg ar y Llif Gwaith Argraffu 3D, o ddylunio cychwynnol gyda chymorth cyfrifiadur (CAD) i'r camau terfynol ar ôl prosesu.
  • Taith o Amgylch y Cyfleuster
    • Ewch ar daith o amgylch cyfleusterau gweithgynhyrchu adiol Prifysgol Caerdydd sy'n cynnwys ystod eang o brosesau a pheiriannau gweithgynhyrchu adiol. Dyma gyfle i ofyn cwestiynau, gweld samplau, peiriannau a lleoliadau labordai.
  • Gwella Sgiliau
    • Datblygwch eich sgiliau proffesiynol, i fod yn fwy medrus ym maes gweithgynhyrchu adiol.
  • Cyfleoedd i Rwydweithio
    • Cysylltwch â grŵp amrywiol o weithwyr proffesiynol, gan gynnwys peirianwyr, dylunwyr ac arweinwyr busnesau.
  • Mantais Gystadleuol
    • Byddwch gam ar y blaen yn eich diwydiant trwy ddeall galluoedd technoleg gweithgynhyrchu adiol.

Bydd y gweithdy hanner diwrnod hwn yn trochi’r sawl sy’n cymryd rhan ym myd argraffu 3D gan ddefnyddio Modelu Dyddodiad Ymdoddedig (FDM) a Ffabrigo Ffilamentau Ymdoddedig (FFF), gan roi dealltwriaeth sylfaenol a’r sgiliau ymarferol sy'n hanfodol ar gyfer peirianneg a dylunio modern. Bydd y gweithdy hwn yn paratoi’r sawl sy’n cymryd rhan i ddatrys heriau yn y byd go iawn gan ddefnyddio argraffu 3D.

Mae'r gweithdy hwn yn cynnwys:

  • dysgwch hanfodion argraffu 3D gan ddefnyddio FDM/FFF, gan gynnwys meddalwedd sleisio a chynhyrchu gcode
  • byddwch chi’n cael profiad ymarferol o baratoi a dechrau argraffiad 3D
  • byddwch chi’n trin a thrafod galluoedd argraffu 3D RemakerSpace a chael taith o amgylch y labordy
  • gallwch chi gasglu darn wedi’i argraffu ar argraffydd 3D ar ddiwedd y sesiwn

Ar gyfer pwy mae hwn:

  • peirianwyr
  • dylunwyr
  • gweithwyr proffesiynol ym maes gweithgynhyrchu
  • arweinwyr busnes
  • rheolwyr
  • entrepreneuriaid
  • busnesau newydd

Manteision:

  • Gwybodaeth Hanfodol
    • Meddwch ar ddealltwriaeth o'r egwyddorion y tu ôl i argraffu FDM/FFF 3D.
  • Profiad Ymarferol
    • Datblygwch sgiliau ymarferol wrth osod a chychwyn argraffiadau 3D.
  • Cipolwg ar y Cyfleuster
    • Cymerwch gipolwg ar alluoedd argraffu 3D datblygedig yn RemakerSpace.
  • Gwella Sgiliau
    • Datblygwch eich galluoedd peirianneg a dylunio, i fod yn fwy hyfedr wrth weithredu atebion argraffu 3D.
  • Cysylltiadau Proffesiynol
    • Dewch i gwrdd a rhwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill yn y maes, gan gynnwys peirianwyr, dylunwyr ac arweinwyr busnes.

Mae’r cwrs hanner diwrnod hwn yn cynnig cyflwyniad ymarferol i ddylunio’n benodol ar gyfer argraffu 3D, gyda ffocws ar ddefnyddio egwyddorion dylunio ar gyfer gweithgynhyrchu adiol wrth ddefnyddio technolegau amrywiol ym maes gweithgynhyrchu adiol.

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys:

  • deall dylunio ar gyfer gweithgynhyrchu adiol a sut i’w ddefnyddio yn rhan o brosesau gweithgynhyrchu adiol
  • canllawiau cyffredinol ynghylch dylunio ar gyfer gweithgynhyrchu adiol ar gyfer gwahanol dechnolegau gweithgynhyrchu adiol
  • taith o amgylch labordy RemakerSpace a’i offer gweithgynhyrchu adiol

Ar gyfer pwy mae hwn:

  • peirianwyr
  • dylunwyr
  • gweithwyr proffesiynol ym maes gweithgynhyrchu

Manteision:

  • Gwybodaeth Graidd
    • Cewch sylfaen yn egwyddorion dylunio ar gyfer gweithgynhyrchu adiol a'u cymhwyso at wahanol brosesau gweithgynhyrchu adiol.
  • Canllawiau Dylunio
    • Dysgwch ganllawiau ymarferol dylunio ar gyfer gweithgynhyrchu adiol sy'n berthnasol i ystod o dechnolegau argraffu 3D.
  • Cipolwg ar y Cyfleuster
    • Crwydrwch o amgylch labordy RemakerSpace a'i offer gweithgynhyrchu adiol datblygedig.
  • Meithrin Sgiliau
    • Rhowch hwb i'ch sgiliau dylunio, i fod yn fwy medrus wrth ddefnyddio argraffu 3D yn eich prosiectau.

Bydd y gweithdai pwrpasol hyn yn esbonio potensial dylunio ac argraffu 3D i fynd i’r afael â heriau cynaliadwyedd, wedi’u teilwra i anghenion unigryw eich sefydliad.

Mae'r gweithdai hyn yn cynnwys:

  • mynd i'r afael â heriau cynaliadwyedd gyda dylunio ac argraffu 3D
  • sesiynau trafod syniadau a phrototeipio
  • ennill sgiliau dylunio 3D ymarferol i fynd i'r afael ag anghenion sy’n benodol i’ch cwmni

Ar gyfer pwy mae hwn:

  • peirianwyr
  • dylunwyr
  • gweithwyr proffesiynol ym maes gweithgynhyrchu
  • arweinwyr busnes
  • rheolwyr
  • entrepreneuriaid
  • busnesau newydd

Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn rhoi trosolwg o egwyddorion yr economi gylchol, rheoli adnoddau ymarferol, a strategaethau cynaliadwy ar gyfer y gadwyn gyflenwi.

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys:

  • cyflwyniad i gysyniadau o ran yr economi gylchol a'r strategaethau ‘10R’ craidd
  • strategaethau ar gyfer adennill adnoddau ac ailgylchu wrth greu cynnyrch
  • effaith cynaliadwyedd ar gadwyni cyflenwi

Ar gyfer pwy mae hwn: Gweithwyr proffesiynol sydd â diddordeb mewn egwyddorion yr economi gylchol.

Mantais:

  • Dealltwriaeth Gynhwysfawr
    • Cewch afael gadarn ar egwyddorion economi gylchol a'r strategaethau 10R.
  • Systemau Rheoli Adnoddau
    • Dysgwch strategaethau effeithiol ar gyfer adfer adnoddau ac ailgylchu wrth ddatblygu cynnyrch.
  • Cadwyni Cyflenwi Cynaliadwy
    • Darganfyddwch sut i weithredu arferion cynaliadwy mewn cadwyni cyflenwi.
  • Twf Proffesiynol
    • Datblygwch eich sgiliau a'ch gwybodaeth am gynaliadwyedd, i fod yn fwy gwerthfawr yn eich maes.
  • Cyfleoedd i Rwydweithio
    • Cysylltwch ag unigolion o'r un anian sy'n angerddol am gynaliadwyedd

Mae rhaglenni hyfforddiant wedi'u teilwra ar gael
Rydyn ni hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi wedi'u teilwra i fodloni anghenion penodol eich sefydliad. Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion ac i ddylunio cwrs sy'n cyd-fynd â'ch nodau.

Cysylltu â ni

Cysylltwch â ni i fynegi eich diddordeb mewn cofrestru ar unrhyw un o'r cyrsiau sydd ar gael.

RemakerSpace