Statws ffioedd
Rheoliadau sy'n llywodraethu dosbarth ffioedd.
Gwybodaeth ar gyfer ymgeiswyr
Ym Mhrifysgol Caerdydd mae statws ffioedd wedi'i benderfynu yn unol â'r Rheoliadau (Ffioedd a Dyfarniadau) a gydag egwyddorion arweiniol y Brifysgol ar asesu ffioedd.
Yr egwyddorion arweiniol ynghlwm wrth asesu ffioedd
Guiding principles of fee assessment
Cymhwysedd i dalu ffioedd cartref
Os bydd eich amgylchiadau chi'n cydfynd gydag un o'r categorïau hyn, byddwn yn codi ffi 'cartref'. Er mwyn i chi fod yn gymwys mewn un categori, rhaid i chi gyrraedd yr holl feini prawf angenrheidiol ar gyfer y categori hwnnw, yn cynnwys unrhyw ofyniad llety. Eich cyfrifoldeb chi yw bodloni'r Brifysgol eich bod yn gallu cyrraedd meini prawf un o'r categorïau i gael eich ystyried yn fyfyriwr 'cartref'.
Proses asesu ffioedd
Ni wneir unrhyw benderfyniad o ran statws ffioedd hyd nes y byddwn wedi derbyn cais ffurfiol gennych ac, yn y rhan fwyaf o achosion, nes ein bod wedi penderfynu eich bod am gael cynnig lle.
Os na allwn benderfynu ar eich statws ffioedd o'r wybodaeth a ddarperir yn eich cais, byddwn fel arfer yn anfon e-bost atoch i ofyn i chi lenwi holiadur asesu ffioedd.
Os ydych yn derbyn cynnig a'ch bod yn credu eich bod wedi'ch dosbarthu'n anghywir at ddibenion talu ffioedd, dylech gwblhau a dychwelyd yr holiadur asesu ffioedd.
Gallai methu â dychwelyd yr holiadur asesu ffioedd a'r dogfennau ategol perthnasol pan ofynnir amdanynt arwain at orfod talu ffioedd dysgu ar y gyfradd 'dramor'.
Unwaith y bydd eich statws ffioedd yn cael ei gadarnhau
Byddwn yn eich cynghori o'r ffi ddysgu a fydd yn daladwy i Brifysgol Caerdydd drwy'r llythyr cynnig ffurfiol. Mae rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu ar gael ar ein tudalennau ffioedd dysgu israddedig ac ôl-raddedig.
Gwybodaeth i fyfyrwyr
Unwaith yr ydych yn fyfyriwr cofrestredig, byddwn yn newid eich statws ffioedd os daw hi i'r amlwg bod yna gamgymeriad yn y dosbarthiad gwreiddiol, neu os oes angen newid o dan y rheoliadau.
Os ydych o'r farn bod angen newid eich statws (e.e. os yw'ch gwlad wedi ymuno â'r UE neu fod eich cais am loches wedi'i gymeradwyo), llenwch yr holiadur asesu ffioedd a'i lwytho i fyny drwy wasanaeth Porth Cysylltu Myfyrwyr.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'ch statws ffioedd neu'ch rheoliadau ffioedd, anfonwch ymholiad drwy Porth Cysylltu Myfyrwyr.