Rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau derbyn myfyrwyr
Ein cenhadaeth yw mynd ar drywydd ymchwil, dysgu ac addysgu o safon ac effaith fyd-eang.
Mae pob un o weithgareddau’r Brifysgol yn anelu at gyflawni'r safonau rhyngwladol uchaf o ran ymchwil, dysgu ac addysgu, a hynny mewn diwylliant ymchwil cyfoethog ac amrywiol lle gall pob aelod o’r staff a’r myfyrwyr gyflawni ei botensial yn llawn er budd y gymuned ehangach a’r gymdeithas drwyddi draw.
Egwyddorion
Mae proses dderbyn y Brifysgol yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:
- tegwch
- tryloywder
- proffesiynoldeb
- hygyrchedd i ymgeiswyr a’u cynghorwyr
- y defnydd cyson o bolisïau a gweithdrefnau
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob un o’n harferion a’n gweithgareddau, gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â recriwtio, dethol a derbyn myfyrwyr.
Ni fyddwn yn gwahaniaethu yn erbyn nac yn erledigaeth berson oherwydd nodwedd warchodedig mewn perthynas â:
- y trefniadau a wnawn ar gyfer penderfynu pwy sy'n cael cynnig mynediad fel myfyriwr
- y telerau yr ydym yn cynnig derbyn y person fel myfyriwr arnynt
- peidio â derbyn y person fel myfyriwr
- peidio ag aflonyddu ar berson sydd wedi gwneud cais am dderbyniad fel myfyriwr
Mae hyn yn cwmpasu popeth, gan gynnwys cynllunio cyrsiau a gosod gofynion derbyn, yr wybodaeth a roddwn am y sefydliad a'r cwrs a'r broses ymgeisio a derbyn myfyrwyr.
Rydym wedi ymrwymo i'r safonau uchaf o foeseg ac ymddygiad yn ein gweinyddiaeth, ein polisi sefydliadol a’n hymddygiad, ac i gyfathrebu’n agored, yn effeithiol ac yn effeithlon yn unol â chyfraith defnyddwyr.
Mae ein rheoliadau, ein polisïau a’n gweithdrefnau Derbyn Myfyrwyr yn amlinellu proses dderbyn y Brifysgol yn achos ymgeiswyr a'u cynrychiolwyr ac yn cefnogi gwaith staff derbyn i gyflawni cenhadaeth y Brifysgol.
Rheoliadau Derbyn Myfyrwyr
Polisïau a gweithdrefnau derbyn myfyrwyr
Cwynion yn erbyn gweithdrefn ymgeisydd: amlinellir y broses i drydydd parti gyflwyno cwyn am ymddygiad ymgeisydd.
Gweithdrefn adborth, cwynion ac apeliadau i ymgeiswyr: esbonnir sut y gall ymgeiswyr ofyn am adborth ar gais aflwyddiannus, gan amlinellu'r weithdrefn i gyflwyno cwyn neu apêl ffurfiol ynghylch proses neu ganlyniad derbyn myfyrwyr y Brifysgol.
Meini prawf derbyn cyd-destunol a’i roi ar waith: esbonnir sut mae proses dderbyn y Brifysgol yn ystyried amgylchiadau a chefndir unigol ymgeisydd wrth adolygu ei gais.
Polisi, gweithdrefn a chanllawiau ar euogfarnau troseddol: esbonnir y gofynion ynghylch datgelu euogfarnau troseddol a sut yr ystyrir y rhain. Mae'r Brifysgol yn cydnabod ei bod yn bosibl bod addysg yn rhan allweddol o adsefydlu, ac nad yw euogfarn droseddol fel mater o drefn yn atal cofrestriad.
Canllawiau ar flaendaliadau rhaglenni ôl-raddedig (gan gynnwys y polisi ad-dalu): amlinellir pwy y bydd gofyn iddo dalu blaendal rhaglenni ôl-raddedig a addysgir, gan gynnwys esemptiadau, ac eglurir meini prawf ad-daliadau.
Pennu addasrwydd ymgeisydd i ymarfer rhaglenni a reoleiddir ac a yw’n gymwys ar eu cyfer: esbonnir y meini prawf a'r broses asesu a yw ymgeisydd yn bodloni'r gofynion ymddygiad proffesiynol a lles i gael ei dderbyn i raglen a reoleiddir.
Gweithdrefn dilysu dogfennau i ymgeiswyr: esbonnir y broses dilysu gwybodaeth ymgeisydd ac ymchwilir i bryderon ynghylch manylion ffug, anghywir neu gamarweiniol.
Gofynion iaith Saesneg: manylir ar y gofynion hyfedredd Saesneg yn achos astudiaethau israddedig ac ôl-raddedig, gan gynnwys safonau academaidd a gofynion nawdd UKVI.
Polisi a chanllawiau i ymgeiswyr ar amgylchiadau esgusodol : amlinellir y broses i ymgeiswyr ddatgelu a darparu tystiolaeth o amgylchiadau personol arwyddocaol sydd wedi effeithio ar eu perfformiad academaidd neu eu gallu i gwblhau asesiadau.
Egwyddorion arweiniol asesu ffioedd: esbonnir sut mae'r Brifysgol yn penderfynu ar gategori ffioedd dysgu ymgeisydd a'r broses gwneud cais am ailasesiad.
Y polisi ar dderbyn myfyrwyr ar raglenni chwaraeon perfformiad uchel: esbonnir sut mae cyflawni ym maes chwaraeon a pherfformiad academaidd yn cael eu hystyried yn y broses o dderbyn athletwyr perfformiad uchel.
Canllawiau ar gyfweliadau a chlyweliadau: darperir yr arferion gorau ar y broses dderbyn a ddefnyddir yn achos cyfweliadau a chlyweliadau i asesu addasrwydd ymgeisydd ar gyfer rhaglen.
Y polisi ar ordanysgrifio yn achos rhaglenni israddedig: esbonnir sut mae'r Brifysgol yn dewis ymgeiswyr i raglenni israddedig hynod gystadleuol lle bydd nifer y lleoedd yn gyfyngedig, gan gynnwys Deintyddiaeth, y Gwyddorau Gofal Iechyd, Meddygaeth, ac Optometreg a Gwyddorau'r Golwg.
Cyfnod perthnasedd cymwysterau academaidd blaenorol: manylir ar derfynau amser perthnasedd cymwysterau academaidd wrth wneud cais i'r Brifysgol.
Y Polisi ar Gydnabod Dysgu Blaenorol (trosglwyddo credydau a phrofiad): esbonnir sut y gall ymgeiswyr wneud cais am esemptiad o rannau o raglen yn seiliedig ar astudiaethau blaenorol neu brofiad proffesiynol.
Ysgol Ddeintyddiaeth - polisi derbyn ar gyfer rhaglenni israddedig (mynediad 2025): yn darparu gwybodaeth fanwl am y broses dderbyn israddedig sy'n benodol i'r Ysgol Ddeintyddiaeth, gan gynnwys meini prawf dethol a gweithdrefnau cyfweld.
Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd - polisi derbyn ar gyfer rhaglenni israddedig (mynediad 2025): yn amlinellu'r broses dderbyn a'r gofynion mynediad ar gyfer rhaglenni israddedig yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd.
Ysgol Feddygaeth - polisi derbyn ar gyfer rhaglenni israddedig (mynediad 2025): yn esbonio'r broses dderbyn, meini prawf dethol, a gweithdrefnau cyfweld ar gyfer mynediad israddedig i'r Ysgol Feddygaeth.
Amodau a thelerau’r cynnig: darperir yr amodau a’r telerau swyddogol a roddir i’r ymgeiswyr pan fyddant yn cael cynnig astudio ffurfiol.
Polisi dan 18: esbonnir proses y Brifysgol o ran derbyn myfyrwyr a fydd o dan 18 oed ar ddechrau ei raglen a'r cymorth sydd ar gael.
Polisïau sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol
Hysbysiad diogelu data i fyfyrwyr ac ymgeiswyr: esbonnir sut mae'r Brifysgol yn casglu, yn defnyddio ac yn diogelu gwybodaeth bersonol ymgeiswyr a myfyrwyr.
Polisi a gweithdrefnau diogelu plant ac oedolion sy’n wynebu risg: amlinellir cyfrifoldebau cyfreithiol a moesegol y Brifysgol i ddiogelu plant ac oedolion ‘sy’n wynebu risg’ sy’n dod i gysylltiad â chymuned y Brifysgol, a’r staff sy’n gweithio gyda phlant ac oedolion ‘sy’n wynebu risg’ i sicrhau bod canllawiau a gweithdrefnau clir i adnabod y risg a rhoi gwybod am bryderon.
Safonau’r Gymraeg: manylir ar ymrwymiad y Brifysgol i hybu a chefnogi’r Gymraeg yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Gofynion mynediad
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob myfyriwr sydd â’r cymwysterau priodol ac yn ystyried ystod eang o gymwysterau mynediad at ein rhaglenni, gan gynnwys cymwysterau galwedigaethol, tramor a chymwysterau cyfwerth eraill. Gellir ystyried profiad proffesiynol hefyd er mwyn derbyn myfyrwyr ar sail fesul achos.
Bydd eindarganfyddwr cyrsiau ar-lein yn rhoi gwybodaeth ichi am ein gofynion mynediad safonol mewn perthynas â phob rhaglen a chynigion nodweddiadol ar gyfer pob rhaglen radd.
Fel arfer, caiff y gofynion mynediad ar y tudalennau gwybodaeth am gyrsiau eu manylu ar sail cymwysterau'r DU. Nid yw hynny'n golygu mai dyma'r unig gymwysterau y byddwn yn eu derbyn, yn hytrach, dyma'r cymwysterau y chwilir amdanynt yn fwyaf aml. Rydym hefyd yn derbyn ystod o gymwysterau eraill y DU.
Yn achos ymgeiswyr sydd â chymwysterau rhyngwladol neu dramor, byddwn yn defnyddio meini prawf cywerthedd priodol. Dylid defnyddio’r rhain yn ganllaw cyffredinol.
Os na fydd cymhwyster rydych yn astudio ar ei gyfer ar y rhestr, cysylltwch â'r tîm derbyn myfyrwyr ar bob cyfrif. Bydd y tîm yn gallu rhoi cyngor ac arweiniad ichi ynghylch a yw'r cymhwyster rydych yn/wedi’i astudio yn addas at ddibenion mynediad uniongyrchol at y rhaglen o'ch dewis a, pan fo’n bosibl, gofynion mynediad arferol y cymhwyster hwnnw.
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Nod y Brifysgol yw recriwtio a derbyn myfyrwyr sydd â’r potensial i elwa ar gyd-destun dysgu, addysgu ac ymchwil y Brifysgol ac sydd fwyaf abl i elwa arno, waeth beth fo'u cefndir.
Mae'r Brifysgol yn cefnogi ystod o weithgareddau a mentrau sy’n anelu at ehangu mynediad a meithrin diwylliant cynhwysol y Brifysgol, fel y nodir ynstrategaeth ehangu cyfranogiad y Brifysgol. Nod y strategaeth hon yw mynd i'r afael â recriwtio, cadw a dilyniant myfyrwyr o ystod eang o grwpiau sydd heb eu cynrychioli’n ddigonol yn draddodiadol ym myd addysg uwch.
Mae gan y Brifysgol hefyd broses dderbyn gyd-destunol yn achos ymgeiswyr israddedig o'r DU i ganfod y rheini sydd fwyaf tebygol o fod wedi wynebu rhwystrau rhag cymryd rhan mewn addysg uwch.
Yn sgil Gyda’n Gilydd yng Nghaerdydd, rydym yn helpu’r rheini sydd â phrofiad o ofal, sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teulu, â phrofiad milwrol, sy’n ofalwyr ac yn geiswyr lloches drwy roi cyngor a chymorth i fyfyrwyr yn y broses ymgeisio, yn ogystal ag ar ôl bod yn y brifysgol.
Mae gwasanaethau cymorth pwrpasol hefyd ar gael i'r rheini y mae eu hamgylchiadau personol yn debygol o effeithio ar eu penderfyniad i wneud cais i brifysgol.
Cymorth i ymgeiswyr
Rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i ymgeiswyr rydym wedi gwneud cynnig iddynt.