Cymeradwyo rhaglenni a darpariaeth eraill sy'n dwyn credydau
Mae Proses Cynllunio Integredig y Brifysgol (IPP) yn ffordd gyfannol o adolygu a diwygio darpariaeth addysg pob Ysgol (Israddedig, Ôl-raddedig a addysgir ac Ymchwil Ôl-raddedig) i sicrhau bod ein blaenoriaethau strategol ar gyfer addysg a recriwtio yn cael eu hystyried gyda'i gilydd.
Gall unrhyw un sy'n datblygu rhaglen newydd neu'n diwygio’n sylweddol rhaglenni presennol sy'n arwain at Wobr Prifysgol Caerdydd gyfeirio at ein gweithdrefn ar gyfer cymeradwyo rhaglenni, modiwlau, a darpariaeth gredyd arall. Mae pob adran yn amlinellu'r disgwyliadau sylfaenol ac mae wedi'i threfnu ochr yn ochr â gofynion y disgwyliadau sefydliadol ar gyfer strwythuro, dylunio a darparu rhaglenni.
Cymorth i ddatblygu rhaglenni sefydliadol
Mae amrywiaeth o dimau gwasanaeth proffesiynol yn cynnig cymorth, arweiniad ac adnoddau wedi'u targedu i helpu ein hysgolion i gynllunio darpariaeth addysgol sy'n bodloni'r gofynion sylfaenol ac yn rhagori arnyn nhw. Yn ogystal, mae’r pecyn cymorth Datblygu Addysg yn cynnig canllawiau ymarferol, adnoddau, enghreifftiau ac offer sy’n ymdrin ag ystod eang o themâu sy’n ymwneud â’r cwricwlwm, sy’n cefnogi timau datblygu rhaglenni i fodloni’r disgwyliadau sefydliadol a rhagori arnyn nhw.
Datblygu rhaglenni gyda phartneriaid allanol
Mae'r trefniadau llywodraethu ar gyfer sefydlu, datblygu a chynnal yr holl weithgarwch â phartneriaethau allanol wedi'u hamlinellu yn y weithdrefn a’r Polisi Partneriaeth Addysg fel sy'n ofynnol gan Gôd Ansawdd Addysg Uwch y DU. Drwy’r polisi hwn, mae Prifysgol Caerdydd yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar risg o ddatblygu a rheoli ei threfniadau, a chaiff y rhain eu nodi yn Nhacsonomeg y Bartneriaeth Addysg a Addysgir.
Trosolwg sefydliadol
Mae’r Polisi Monitro ac Adolygu yn cynnal goruchwyliaeth sefydliadol a chaiff hyn ei adolygu’n rheolaidd i sicrhau ei fod yn parhau i fodloni'r disgwyliadau a'r arferion a nodir yng Nghôd Ansawdd diwygiedig Addysg Uwch y DU a'r Safonau a'r Canllawiau ar gyfer Sicrhau Ansawdd yn Ardal Addysg Uwch Ewrop (ESG) 2015.
Gweithdrefn-Cymeradwyo-Rhaglenni
Programme Approval Policy (Welsh version)