Ailddilysu
Mae ailddilysu’n gyfle i’r holl ysgolion adolygu eu portffolio o raglenni er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i’r diben yn strategol ac yn academaidd.
Bydd cam adolygu portffolio’r broses ailddilysu yn digwydd trwy broses gynllunio integredig (IPP) y Brifysgol. Bydd y cam hwn yn adolygu ac yn ail-lunio darpariaeth addysg eich Ysgol (Israddedig, Ôl-raddedig a addysgir ac Ymchwil Ôl-raddedig) mewn ffordd gyfannol i sicrhau bod blaenoriaethau strategol y Brifysgol o ran addysg a recriwtio yn cael eu hystyried gyda'i gilydd.
Unwaith y bydd canlyniadau trafodaethau IPP eich ysgol yn hysbys, byddwch yn symud ymlaen drwy'r broses safonol sy’n ymwneud â chymeradwyo rhaglenni.
Egwyddorion allweddol
Mae canlyniad y broses Ailddilysu yn golygu y gallwn ni gadarnhau bod:
- Pwrpas ac amcanion y rhaglenni’n parhau’n berthnasol
- Deilliannau dysgu lefelau’r rhaglenni’n parhau i fod yn briodol a’u bod yn diogelu’r Dyfarniad arfaethedig
- Strategaeth asesu gynhwysfawr, dryloyw a hygyrch ar gyfer yr holl raglenni sy’n destun adolygiad ac y bwriedir iddi fod mor gynhwysol â phosibl er mwyn adlewyrchu anghenion cymuned o fyfyrwyr sy’n amrywiol
- Cynnwys ac asesiadau modiwlau yn cael eu pennu yn unol â lefel briodol y Fframwaith ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch (FHEQ) a’u bod yn ystyried y datganiadau meincnod priodol ar gyfer y pwnc
- Rheolau’r rhaglen (gan gynnwys y rheolau ynghylch dyfarniadau, ailsefyll ac ailadrodd) yn cael eu cadarnhau a’u bod yn parhau i gyd-fynd â rheoliadau’r Brifysgol
- Pan fo'n berthnasol, mae’r rhaglenni'n bodloni gofynion Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (PSRB) ac yn barod i'w hachredu
- Y wybodaeth am y rhaglen a gyhoeddir yn parhau i fod yn gyfredol ac yn gywir, yn unol â'n cyfrifoldebau o dan y Gyfraith o ran Diogelu Defnyddwyr