Ewch i’r prif gynnwys

Arholwyr Allanol

Mae’r Brifysgol yn rhoi pwys mawr ar gynnal adolygiad gan gymheiriaid gan arholwyr allanol fel ffordd allweddol o sicrhau bod:

  • safonau academaidd dyfarniadau’r Brifysgol a’u rhannau cydrannol yn cael eu cynnal ar y lefel briodol, a bod safonau perfformiad myfyrwyr yn cael eu barnu’n briodol yn erbyn hyn
  • y broses asesu derfynol yn mesur cyflawniad myfyrwyr yn gywir yn erbyn deilliannau dysgu a fwriedir, yn drylwyr, yn deg ac yn cael ei gweithredu’n deg, ac yn unol â rheoliadau a pholisïau’r Brifysgol
  • mae'r Brifysgol yn gallu cymharu safon ei dyfarniadau â rhai sefydliadau addysg uwch eraill
  • mae darpariaeth y Brifysgol yn gwella’n barhaus i adlewyrchu datblygiadau yn y sector, y sefydliad a’r ddisgyblaeth.

Rôl a chyfrifoldebau

Mae arholi allanol yn chwarae rhan allweddol wrth gynnal ein safonau academaidd, a dyma ofyniad rheoleiddio hanfodol wrth inni ddarparu allanoldeb yn ein prosesau monitro ac adolygu.

Mae rôl gyffredinol arholwyr allanol o fewn prosesau sicrhau ansawdd y Brifysgol wedi'i nodi yn y Polisi Monitro ac Adolygu. Nodir dyletswyddau penodol arholwyr allanol, yn ogystal â’r disgwyliadau o ran ymgysylltu a chefnogi yn y Weithdrefn ar gyfer Arholwyr Allanol (Rhaglenni a Addysgir).  Mae’r Weithdrefn hon wedi’i alinio o amgylch yr Egwyddorion Arholwyr Allanol (UKSCQA) ac mewn Canllawiau Atodol a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (QAA).

Credwn na ddylai’r rôl fod wedi’i chyfyngu i ystyried canlyniadau arholi a phresenoldeb ar fyrddau arholi.

Anogwn arholwyr allanol i roi sylwadau a chyngor ar y meysydd canlynol:

  • cynnwys, cydbwysedd a strwythur rhaglenni a modiwlau/unedau
  • datblygu rhaglenni
  • strategaethau a phrosesau asesu.

Er bod rôl arholwyr allanol yn un amrywiol, mae’n bwysig nodi nad yw’r arholwr allanol yn gyfrifol am farcio, cymedroli na barnu achosion myfyrwyr unigol. Dylai’r arholwr allanol fod yn ymgynghorydd annibynnol a diduedd sy'n rhoi sylwadau gwybodus ar y safonau academaidd a osodwyd a llwyddiant y myfyrwyr mewn ymateb.

Adroddiadau

Rhaid i arholwyr allanol gyflwyno adroddiad blynyddol ar y rhaglen(ni) a/neu fodiwlau a aseinir iddynt, gan gynnwys arsylwi safonau academaidd, agweddau ar ymarfer da, strwythur rhaglen dysgu ac addysgu, a chynnwys.

Ystyrir pob adroddiad ac ymatebion gan Ysgolion yn fewnol fel rhan o’r broses adolygu a gwella flynyddol; ac mae trosolwg blynyddol o faterion ac ymarfer da a godwyd gan Arholwyr Allanol yn cael ei gynnwys yn yr Adroddiad Ansawdd Blynyddol sy’n cael ei baratoi i'w ystyried gan Bwyllgor Ansawdd a Safonau Academaidd y Brifysgol.

Os oes gennych bryderon parhaus a difrifol iawn ynghylch materion sy'n ymwneud â safonau, ac eisoes wedi dihysbyddu trafodaethau blaenorol â Phennaeth yr Ysgol neu Ddeon y Coleg ar gyfer Addysg a Myfyrwyr ond heb foddhad, gallwch gysylltu â’r Is-Ganghellor yn uniongyrchol ac yn gyfrinachol.

Mae adroddiadau arholwr allanol y gorffennol ar gyfer ein holl raglenni ar gael i'r holl staff a myfyrwyr yn ogystal ag arholwyr allanol cyfredol trwy SharePoint (angen mewngofnodi rhwydwaith).

Gweithdrefn arholwyr allanol

Rhydd y weithdrefn arholwyr allanol ganllawiau cynhwysfawr ar rôl a chyfrifoldebau bod yn arholwr allanol ym Mhrifysgol Caerdydd.