Achredu gan gyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddiol
Mae nifer fawr o'n rhaglenni wedi'u hachredu gan gyrff allanol.
Mae statws achrededig yn cyflawni amrywiaeth o swyddogaethau gan gynnwys:
- cydnabyddiaeth o ansawdd y rhaglen
- achredu rhaglenni ar gyfer mynediad proffesiynol
- statudol, gyda phwerau cyfreithiol i gynrychioli
- rheoleiddiol, gyda swyddogaeth arolygu
Yr amserlen achredu
Mae pob corff proffesiynol yn cadw cofrestr o’r cyfnod achredu a bydd fel arfer yn cysylltu’n uniongyrchol ag Ysgolion ynghylch dyddiadau penodol.
Mae’r Tîm Safonau ac Ansawdd yn cadw cofnod o’r cyfnod achredu ac yn cysylltu â phob Ysgol i sicrhau bod cyflwyniadau ac adroddiadau yn cael eu derbyn a’u craff drwy adolygiad a gwelliant blynyddol (ARE).
Sut mae’r Ysgol yn craffu ar adroddiadau
Mae angen i Ysgolion ystyried adroddiadau eu cyrff proffesiynol yn rhan o’u prosesau sicrhau ansawdd mewnol a, lle bo'n briodol, y fframwaith rheolaethol.
Mewn ymgynghoriad â’r Coleg, mae Pennaeth yr Ysgol yn ymateb yn brydlon i adroddiadau'r corff proffesiynol ac yn awgrymu cwrs gweithredu i ennill achrediad terfynol perthnasol.
Yn dilyn cadarnhad bod achrediad wedi ei roi, rhaid i Bennaeth yr Ysgol roi copi o adroddiad y corff proffesiynol i’r Tîm Safonau ac Ansawdd yn ogystal â chynllun gweithredu sy’n ymateb i’r argymhellion, gyda’r ffrâm amser sydd fel arfer mewn ffurf fel y pennir gan y corff proffesiynol.
Sut mae’r Brifysgol yn craffu ar adroddiadau
Bydd y sefydliad yn goruchwylio adroddiadau cyrff proffesiynol drwy gynnal adolygiad a gwelliant blynyddol (ARE) ac fe’u cyflwynir i’r Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd (ASQC) i sicrhau bod yr Ysgolion wedi rhoi sylw i faterion a nodwyd gan gyrff proffesiynol ac i benderfynu a oes unrhyw un o’r materion yn destun pryder ar draws y Brifysgol yn fwy eang.
Terfynau amser
Yn gyffredinol, nid oes terfynau amser wedi'u gosod ar draws ysgolion pan fydd achredu yn digwydd, felly mae’r dyddiad ar gyfer derbyn adroddiadau'r corff proffesiynol yn amrywio.
Mae’r Tîm Ansawdd a Safonau yn gweithio gydag ysgolion i gynnal y gofrestr achredu a rhoi cymorth ac arweiniad ar ddogfennau cyflwyno.