Pwyntiau cyfeirio allanol
Mae ein fframwaith sicrhau ansawdd yn rhoi pwyslais sylweddol ar bwyntiau cyfeirio allanol.
Mae'r dolenni isod yn amlinellu'r cyrff allanol allweddol a'u gwaith papur a'r cyhoeddiadau sy'n allweddol i weithredu'r system ansawdd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA): Côd Ansawdd y Deyrnas Unedig ar gyfer Addysg Uwch Diwygiedig
Mae'r Côd Ansawdd y Deyrnas Unedig ar gyfer Addysg Uwch yn cael ei ddefnyddio i sicrhau safonau ac ansawdd addysg uwch y DU. Mae'n cael ei ddefnyddio gan ddarparwyr addysg uwch i sicrhau eu bod yn cyflawni'r canlyniadau sy'n ddisgwyliedig ganddynt. Mae'n cyflwyno cyfres o bwyntiau cyfeirio i helpu ddarparwyr i gynnig profiad o ansawdd uchel i'w myfyrwyr.
Mae'r Côd Ansawdd wedi gweld datblygiadau sylweddol. Yn dilyn ymgynghoriad helaeth, cyhoeddwyd Disgwyliadau ac Ymarferion y Côd newydd ym mis Mawrth 2018. Mae'r côd newydd, gan gynnwys cyngor ac arweiniad sy'n sail i'r Disgwyliadau ac Ymarferion, wedi'i drefnu i'w gyhoeddi ym mis Tachwedd 2018.