Ewch i’r prif gynnwys

Datganiad Canlyniadau Gradd

Disgwylir i brifysgolion yng Nghymru a Lloegr gyhoeddi Datganiad Canlyniadau Gradd fel y nodwyd gan Ddatganiad o Fwriad Pwyllgor Sefydlog Asesu Ansawdd y DU (UKSCQA) i ddiogelu gwerthoedd graddau'r DU.

Mae’r Datganiad Canlyniadau Gradd yn amlinellu proffil dosbarthu graddau’r Brifysgol ac yn cadarnhau bod canlyniadau gradd yn cael eu hadolygu bob blwyddyn, drwy system ansawdd academaidd y Brifysgol, gan sicrhau bod safonau academaidd yn cael eu pennu’n briodol a’u cynnal, a chan gyfeirio at ddisgwyliadau allanol.

Proffil dosbarthu graddau’r sefydliad

Cyflwynir proffil canlyniadau gradd Prifysgol Caerdydd yn y graff isod. Mae’r graff yn cynnwys data dosbarthu graddau ar gyfer myfyrwyr israddedig sy’n cyflawni graddau a ddosbarthwyd ar Lefel 6 (Baglor) a Lefel 7 (Gradd Meistr Integredig) fel y diffiniwyd gan y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch (FHEQ).

Degree classification profile from 2014 to 2019

Mae’r graff yn dangos bod cynnydd yng nghyfran y myfyrwyr sy’n ennill graddau da (dosbarth cyntaf ac ail ddosbarth) dros y pum mlynedd (2014/15 hyd at 2018/19), o 78% i 83%. Mae’r cynnydd o 5% pwynt yng nghyfran y myfyrwyr sy’n cyflawni graddau da yn eithaf tebyg i’r cynnydd o 4% yn y sector, ac mae’n parhau’n ddigyfnewid rhwng 2017/18 a 2018/19 (83%).

Mae data ar gyfer ein hysgolion academaidd yn dangos bod cyfran y myfyrwyr sy’n cyflawni graddau dosbarth cyntaf yn amrywio rhywfaint rhwng ysgolion academaidd. Nid yw’r data ar gyfer ein hysgolion academaidd yn cyd-fynd yn llwyr â’r categorïau disgyblaethau a ddiffinnir yn genedlaethol, ac felly ni ellir dibynnu ar gymariaethau uniongyrchol. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod amrywioldeb yng nghyfran y myfyrwyr sy'n cyflawni graddau dosbarth cyntaf ar draws ysgolion academaidd yn nodweddiadol o amrywioldeb myfyrwyr sy'n cyflawni graddau dosbarth cyntaf ar draws categorïau disgyblaethau yn nata'r sector addysg uwch.

Mae’r dadansoddiad o ganlyniadau gradd da (gradd dosbarth cyntaf a gradd 2:1) fesul nodweddion myfyrwyr

Mae’r dadansoddiad o ganlyniadau gradd da (gradd dosbarth cyntaf a gradd 2:1) fesul nodweddion myfyrwyr, a gyflwynir yn nhabl 1 isod, yn dangos y pwynt canran gwahanol rhwng myfyrwyr gyda’r nodwedd benodol o’i gymharu â chyfanswm y boblogaeth sy’n graddio.

Tabl 1: Amrywiant rhwng gradd dda (1af a 2:1)

Student Characteristic

2014/152015/162016/172017/182018/19
Gender

 Male
-4-5-5-5-6
Ethnicity

 Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
-18-16-14-10-13

Disability

Known disability

-2+10+3-1

Widening Participation

POLAR 4 (Quintile 1 & 2)

 100-2

Mae tabl 1 yn dangos bod dynion yn cyflawni canlyniadau gradd ychydig yn is na’r boblogaeth, ac nad oes llawer o amrywiad i fyfyrwyr ag anableddau a'r rheini o gwintel 1 a 2 o POLAR4 (ardaloedd cyfranogiad isel). Mae tabl 1 hefyd yn tynnu sylw at y canlyniadau sylweddol is i fyfyrwyr du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol (rhoddir manylion o ran hyn isod).

Mae’r Grŵp Bwlch Dyfarnu du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn cyfuno’r dystiolaeth o’r adroddiad #ClosingtheGap a data ansoddol y Brifysgol i ddatblygu cynllun gweithredu a fydd yn cael ei gadarnhau yn 2020/21. Bydd y cynllun gweithredu yn cynnwys arfer gorau o bob rhan o’r sector a’r model grŵp ffocws-myfyrwyr hwylusydd/arolygu i gael dealltwriaeth lefel Ysgol o rwystrau gwahanol a galluogwyr ar draws y Brifysgol. Caiff y camau gweithredu eu trefnu’n themâu i ystyried diwylliant y Brifysgol, derbyniadau, cynnwys cwricwlwm a’r amgylchedd dysgu, cymorth i fyfyrwyr ac achosion a gweithgareddau allgyrsiol. Y canlyniad mesuradwy fydd dileu’r bwlch dyfarnu du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn yr hirdymor gyda'r nod o leihau'r bwlch i lai na 5% erbyn 2025.

Arferion asesu a marcio

Rydym yn sicrhau bod holl gymwysterau Prifysgol Caerdydd o safon academaidd briodol drwy ein system ansawdd academaidd, a ddisgrifir yn ein Rheoliadau Academaidd a’n polisïau a gweithdrefnau cysylltiedig. Mae’r rheoliadau a’r polisïau’n cadarnhau ein harferion asesu a marcio.

Cadarnhaodd Adolygiad Gwella Ansawdd a gynhaliwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA) ym mis Mawrth 2020 fod system ansawdd academaidd y Brifysgol yn bodloni’r gofynion canlynol:

  • y Safonau a’r Canllawiau ar gyfer Sicrhau Ansawdd yn Rhan 1 Maes Addysg Uwch Ewrop (ESG) ar gyfer sicrhau ansawdd mewnol;
  • gofynion rheoleiddiol sylfaenol perthnasol Fframwaith Asesu Ansawdd Cymru, sy’n cynnwys:
  • Fframwaith Credyd ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch (FHEQ)
  • Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (CQFW)
  • Disgwyliadau ac ymarferion craidd a chyffredin Côd Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch.

Mae ein prosesau dilysu ac ail-ddilysu rhaglenni yn sicrhau bod ein disgwyliadau o raddedigion mewn disgyblaethau yn cyd-fynd â datganiadau meincnod pwnc yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd a gofynion cyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddiol (PSRB), lle bo hynny’n berthnasol.

Caiff arholwyr allanol eu penodi ac maen nhw’n aelodau llawn o Fyrddau Arholi. Mae arholwyr allanol yn cyflwyno adroddiadau blynyddol a gofynnir iddynt wneud sylwadau ar safon academaidd dyfarniadau a chyflwyno argymhellion, lle bo’n briodol. Rydym yn cyhoeddi adroddiadau’r arholwyr allanol ac ymateb y Brifysgol.

Rydym wedi mabwysiadu’r hyfforddiant Advance HE i arholwyr allanol a gwneud yn siŵr ei fod ar gael i’n staff academaidd. Mae’r hyfforddiant yn cefnogi ein staff academaidd, sy’n aelodau o’r Byrddau Arholi, er mwyn iddynt gael gwell dealltwriaeth o’r trosolwg disgwyliedig o’r safonau academaidd.

Llywodraethu academaidd

Y Cyngor yw corff llywodraethol y Brifysgol ac mae’n gyfrifol am reoli a chynnal holl agweddau ar faterion y Brifysgol mewn modd effeithiol. Y Senedd yw ein prif awdurdod academaidd ac mae'n gyfrifol am benderfynu ar bolisïau a rheoliadau addysgol ar ran y Cyngor. Mae’r Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd yn is-bwyllgor i’r Senedd, ac mae ganddo gyfrifoldeb sylfaenol, a ddirprwywyd yn benodol iddo gan y Senedd, am oruchwylio safonau dyfarniadau’r Brifysgol.

Mae Cyngor y Brifysgol yn cael adroddiad ansawdd blynyddol gan y Senedd a’r Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd (PSAA) ar weithredu system ansawdd academaidd y Brifysgol. Mae’r adroddiad, ymysg pethau eraill, yn rhoi proffil o ganlyniadau gradd a sicrwydd gan arholwyr allanol o ran safonau academaidd i’r Cyngor. Mae hefyd yn cadarnhau sut mae’r Brifysgol wedi parhau i bennu a chynnal safonau academaidd. Mae’r Cyngor yn cael sicrwydd o safonau academaidd dyfarniadau drwy’r adroddiad ansawdd blynyddol.

Un o brif brosesau’r system ansawdd academaidd, sy’n llywio’r adroddiad ansawdd blynyddol, yw Adolygiad Blynyddol a Gwelliant (ARE). Mae’r ARE yn cael ei gynnal gan ysgolion academaidd, gan adrodd i’r PSAA drwy’r Colegau, i sicrhau bod disgwyliadau a gofynion sy’n ymwneud â safonau academaidd ac ansawdd profiad y myfyrwyr yn cael eu bodloni, a bod cynlluniau i wella. Elfen allweddol o’r ARE yw adolygu canlyniadau gradd, gan gynnwys yr adroddiadau gan y Byrddau Arholi a’r arholwyr allanol i sicrhau bod safonau academaidd yn cael eu cynnal.

Algorithmau dosbarthu

Disgrifir ein halgorithm dosbarthu gradd yn ein rheoliadau academaidd. Nid yw’r algorithm wedi newid yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ac fe’i defnyddiwyd ers 2013/14.

Mae ein halgorithm dosbarthu gradd yn cyfrifo marc terfynol i bennu dosbarthiad graddau. Cyfartaledd cyfunol o'r marciau modiwl yn cyfrannu at y dyfarniad terfynol yw'r marc terfynol, wedi ei bwysoli yn ôl lefel a gwerth credyd y modiwlau (caiff manylion am bwysoliadau eu cynnwys yn y rheoliadau academaidd).

At hynny, os yw marc terfynol o fewn 2% pwynt i fand dosbarthu gradd uwch, dyfernir dosbarthiad uwch os cyflawnwyd nifer y credydau y cytunwyd arnynt ar y lefelau penodol yn y band dosbarthu uwch (mae manylion nifer y credydau i’w cyflawni wedi'u cynnwys yn y rheoliadau academaidd).

Arferion addysgu ac adnoddau dysgu

Mae strategaeth ein sefydliad Y Ffordd Ymlaen 2018-23 a’r is-strategaeth Addysg a Myfyrwyr yn amlinellu ein blaenoriaethau ar gyfer gwella’r profiad dysgu i fyfyrwyr.

Dyma’r prif welliannau i gefnogi dysgu ac addysgu:

  • Sefydlu Canolfan Cefnogaeth Addysg ac Arloesedd (CESI) i roi cymorth canolog a chapasiti sy’n harneisio ac yn gyrru datblygiadau addysgeg arloesol, gan herio’r status quo a datblygu cymuned ymarfer ehangach ar gyfer dysgu ac addysgu.
  • Cwblhau diweddariad sylweddol i’r campws, gyda rhaglen buddsoddi cyfalaf mawr i ddiweddaru ein mannau addysgu craidd, gan sicrhau bod dysgu ac addysgu yn elwa ar fannau sy’n fodern, yn gyfforddus, yn hyblyg ac yn cynnwys technoleg, sydd wedi galluogi arddulliau addysgeg gwahanol.
  • Sicrhau bod technoleg recordio addysgu ar gael yn rheolaidd ar draws ein hystâd dysgu, sy’n cefnogi arferion dysgu ac addysgu arloesol, gan gynnwys recordio darlithoedd yn ogystal â phodledu, dysgu gwrthdro, gwe-ddarllediadau byw, cyflwyno adborth i fyfyrwyr, recordio addysgu oddi ar y safle, recordio a arweinir gan fyfyrwyr. Mae hefyd yn cynnig adnodd gwerthfawr, cynhwysol ar gyfer cefnogi myfyrwyr gydag anghenion cefnogi dysgu ychwanegol.
  • Datblygu canllaw ac adnodd i gefnogi staff i gynnal adolygiadau gan gymheiriaid a myfyrio ar ddysgu ac addysgu o leiaf unwaith bob blwyddyn academaidd i wella profiad dysgu’r myfyrwyr ac er mwyn nodi arferion effeithiol a’u rhannu.

Cyflwyno Gwobr Caerdydd i alluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau a nodweddion cyflogadwyedd allweddol, ac er mwyn cyfleu eu cryfderau i gyflogwyr yn effeithiol.

Monitro canlyniadau gradd, fesul ysgol academaidd a nodwedd y myfyriwr, drwy’r broses adolygu flynyddol, gan sicrhau bod cynlluniau gweithredu priodol lle bo’n briodol.