Ewch i’r prif gynnwys

Partneriaethau Addysg

Rydym yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid, gan gynnwys cyflogwyr, sefydliadau, a sefydliadau addysgol, yn y DU a thramor er mwyn galluogi ein myfyrwyr i ennill ystod eang o brofiad mewn gwahanol leoliadau.

Ein polisi

Mae ein polisi partneriaethau addysgyn darparu fframwaith ar gyfer datblygu, rheoli a goruchwylio'r holl drefniadau partneriaeth addysg.  Fe'i datblygwyd o amgylch set glir o egwyddorion ac mae'n cyd-fynd â'n gweithdrefn cymeradwyo rhaglenni.

Rydym yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar risg o reoli ein holl drefniadau partneriaeth addysg, gan sicrhau ein bod yn parhau i gydymffurfio â Chôd Ansawdd Addysg Uwch y DU, cyngor a chanllawiau perthnasol yr QAA, a’r Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd ar gyfer sicrhau ansawdd mewnol yn y Maes Addysg Uwch Ewropeaidd. (ESG).

Ein tacsonomeg

Mae pob partneriaeth addysg – o ddarparwyr lleoliadau i sefydliadau addysgol sy’n cyflwyno rhan neu’r cyfan o’n rhaglenni a addysgir – yn cael eu gwerthuso’n drylwyr yn unol â lefel y risg a adlewyrchir yn ein tacsonomeg partneriaeth addysg. Mae’r dull hwn sy’n seiliedig ar risg yn ein galluogi i asesu a gwerthuso’r partner, a’u gallu i gyflwyno’r ddarpariaeth addysg, a sicrhau bod safonau academaidd a phrofiad myfyrwyr yn cael eu diogelu.

Amlinellir y prif fathau o bartneriaethau addysg isod:

Partneriaethau addysg a addysgir yw unrhyw drefniant sy’n arwain at ddyfarniad Prifysgol Caerdydd (neu ddyfarniad o gredyd sefydliadol) lle caiff ei gyflwyno, ei asesu neu ei gefnogi mewn partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd ac un neu fwy o sefydliadau partner.

Mae'r holl drefniadau partneriaeth addysg yn cael eu cofnodi ar ein cofrestr partneriaethau addysgsy'n cael ei hadolygu'n gylchol gan Is-bwyllgor y Bartneriaeth Addysg.

Mae astudio dramor a phartneriaethau cyfnewid rhyngwladol ar ffurf blwyddyn ychwanegol o astudio gyda chredydau mewn sefydliad addysg uwch arall, y tu allan i’r DU, lle mae’r astudiaeth yn rhan annatod o raglen Prifysgol Caerdydd (120 credyd ychwanegol).”

Mae manylion ein hastudiaeth dramor a threfniadau partneriaeth cyfnewid rhyngwladol gyda sefydliadau addysg uwch eraill yn cael eu rheoli gan ein Tîm Cyfleoedd Byd-eang.

Diffinnir lleoliad fel dysgu trwy waith, dysgu ar gyfer gwaith a/neu ddysgu yn y gwaith. Mae'n cynnwys cyfleoedd strwythuredig dilys ar gyfer dysgu sy'n cael eu cyflawni mewn lleoliad yn y gweithle neu sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu angen a nodwyd yn y gweithle.

Rydym yn hwyluso lleoliadau â chredydau mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys blwyddyn neu semester lleoliad ychwanegol; modiwl lleoliad; a, lle bo'n briodol, lleoliad wedi'i integreiddio o fewn modiwl.

Mae cytundebau dilyniant a chydweddu yn chwarae rhan allweddol mewn cefnogi recriwtio effeithiol o gorff myfyrwyr amrywiol, amlddiwylliannol, ymwybodol yn fyd-eang ac o ansawdd uchel.

Mae pob cytundeb yn amlinellu’r trefniadau pwrpasol ar gyfer mynediad at ddechrau rhaglen gymeradwy Prifysgol Caerdydd (dilyniant) neu i gam uwch rhaglen (cydweddu).

Trosolwg sefydliadol

Mae ein his-bwyllgor partneriaeth addysg yn goruchwylio'r holl drefniadau partneriaeth addysg. Mae hyn yn cynnwys craffu a, lle bo'n briodol, cymeradwyo cytundebau ar gyfer darpariaeth addysg newydd a/neu bresennol gyda phartneriaid. Mae'r is-bwyllgor yn sicrhau bod adolygiad cylchol o'r holl ddarpariaeth bartneriaethau a threfniadau llywodraethu addysg cysylltiedig a amlinellir yn y Rheoliadau Academaidd a pholisïau a gweithdrefnau cysylltiedig.

Polisi Darpariaeth Gydweithredol

Rydym yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid, gan gynnwys cyflogwyr, sefydliadau, a sefydliadau addysgol, yn y DU a thramor er mwyn galluogi ein myfyrwyr i ennill ystod eang o brofiad mewn gwahanol leoliadau.

Cysylltu

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Tîm Ansawdd a Safonau