Teithio a threuliau
Gall cyflawni rôl y Brifysgol yn effeithiol mewn cymdeithas ofyn am elfen o deithio gan fyfyrwyr, cyflogeion a chymdeithion.
Ochr yn ochr â’r manteision posibl, mae unrhyw deithio, boed yn y DU neu’n rhyngwladol, hefyd yn cynrychioli risgiau ac effeithiau i’r unigolyn a’r sefydliad.
Fel sefydliad cyfrifol bydd y Brifysgol yn ceisio lliniaru risgiau a lleihau effeithiau negyddol hyd yr eithaf cyn cymeradwyo ceisiadau teithio. Fel un o sefydliadau mwyaf Cymru credwn, yn hytrach na gwneud y lleiafswm er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau, y dylai cynaliadwyedd fod yn rhan annatod o werthoedd y Brifysgol, cael ei ymgorffori yn ein gweithrediadau a chael lle canolog yn ein gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Nod y polisi Teithio a Threuliau a’r canllawiau cysylltiedig yw sicrhau bod:
- pobl yn teithio dim ond ar ôl i’r holl risgiau a manteision gael eu hystyried a’u hawdurdodi’n briodol
- cynaliadwyedd amgylcheddol teithiau’r Brifysgol yn cael ystyriaeth briodol
- costau teithio yn cynrychioli gwerth am arian i’r Brifysgol a’i chyllidwyr
- hawliadau treuliau yn unol â chanllawiau CThEM, fel nad yw hawlwyr yn mynd i unrhyw atebolrwydd treth bersonol ychwanegol
- y broses dreuliau yn cael ei defnyddio i ad-dalu treuliau dilys yn unig (ac nad yw’n cael ei defnyddio fel dull amgen o gaffael nwyddau gweithredol a gwasanaethau).
Mae’r polisi’n nodi’r hyn y gellir ac na ellir ei ad-dalu i hawlwyr fel treuliau teithio a threuliau nad ydynt yn gysylltiedig â theithio.
Mae’r polisi’n ategu Rheoliadau Ariannol y Brifysgol.
Os bydd unrhyw wrthdaro rhwng y rheoliadau a’r polisi, y rheoliadau fydd drechaf.
Polisi Teithio a Threuliau
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob aelod o staff, myfyriwr ac ymwelydd sy’n teithio neu sy’n mynd i dreuliau ar ran y Brifysgol.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.