Ewch i’r prif gynnwys

Polisi Buddsoddi Cymdeithasol Gyfrifol

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i sicrhau ei bod yn gwneud penderfyniadau buddsoddi mewn modd cyfrifol a gonest.

Datblygwyd y polisi hwn ar gyfer buddsoddi moesegol i ganiatáu i'r Brifysgol ddilyn dull moesegol tra'n lleihau unrhyw effaith negyddol ar ei adenillion buddsoddi. Mae'n ymwybodol o safbwynt y Comisiwn Elusennau ar ddyletswyddau ymddiriedolwyr i fuddsoddi er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflawni ein diben fel elusen (CC14 Buddsoddi Arian Elusennau).

Wrth wneud penderfyniadau ynghylch buddsoddi, mae'r Brifysgol yn disgwyl i'w Rheolwyr Buddsoddi penodedig fuddsoddi yn unol â'r polisi SRI hwn. Disgwylir i Reolwyr Buddsoddi annog ymddygiad da neu atal ymddygiad gwael drwy sgrinio buddsoddiadau, naill ai'n gadarnhaol neu'n negyddol, a thrwy ymgysylltu'n uniongyrchol â chwmnïau.

Unwaith y flwyddyn, bydd yr Is-bwyllgor Buddsoddiadau a Bancio yn ystyried a ddylid ymgorffori meysydd eraill na ddylid ymwneud â nhw yn y polisi hwn.

Mae polisi buddsoddi'r Brifysgol yn gwahardd buddsoddi’n uniongyrchol mewn cwmnïau ar sail y paramedrau canlynol: -

  • Tybaco: unrhyw gwmnïau sy'n ymwneud â chynhyrchu a dosbarthu cynhyrchion tybaco lle disgwylir i’r enillion fod fwy na 10% o enillion byd-eang;
  • Arfau: unrhyw gwmnïau sy'n cynhyrchu arfau a systemau arfau, gan gynnwys arfau clwstwr a ffrwydron tir gwrthbersonél.
  • Côd Moeseg: unrhyw gwmnïau nad oes ganddyn nhw Gôd Polisi Moeseg fel Egwyddorion Compact y CU (neu debyg); neu gwmnïau sy'n arddangos ffactorau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethiant (ESG) gwael ac nad ydyn nhw’n dangos fawr o arwydd eu bod yn gwella.
  • Egwyddorion Compact y Cenhedloedd Unedig: rhaid i bob cwmni buddsoddi gydymffurfio ag Egwyddorion Compact y Cenhedloedd Unedig. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i gwmnïau weithredu mewn ffyrdd sydd ar y lleiaf yn cwrdd â chyfrifoldebau sylfaenol ym meysydd hawliau dynol, llafur, yr amgylchedd a gwrth-lygredd.
  • Tanwyddau Ffosil:
    • Mae'r brifysgol wedi rhoi’r gorau i fuddsoddi mewn cwmnïau sy'n ymwneud yn uniongyrchol ag echdynnu tanwydd ffosil.
    • Mae'r brifysgol yn gwahardd buddsoddi mewn cwmnïau sy'n masnachu, trosglwyddo, dosbarthu neu gyflenwi tanwydd ffosil, lle mae disgwyl i enillion cyfansymiol o'r fath fod yn uwch na 10% o gyfanswm eu henillion.
    • Mae'r brifysgol yn gwahardd buddsoddi mewn cwmnïau sy'n cynhyrchu pŵer drwy ddefnyddio tanwydd ffosil, lle mae enillion cyfansymiol o'r fath yn uwch na 10% o gyfanswm eu henillion.

Os gwneir buddsoddiadau gan reolwyr trydydd parti mewn cronfeydd cyfun neu debyg, gofyniad y Brifysgol yw y dylai'r cronfeydd dan sylw, lle bynnag y bo'n ymarferol, geisio osgoi buddsoddi’n uniongyrchol mewn cwmnïau sy'n dod o fewn y gwaharddiad ym mholisi Buddsoddi’n Gyfrifol yn Gymdeithasol y Brifysgol.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i fuddsoddiadau Prifysgol Caerdydd.

Nid yw Cronfa Bensiwn Prifysgol Caerdydd yn perthyn i'r Brifysgol. Cyfrifoldeb ymddiriedolwyr y cynllun yw buddsoddi'r cronfeydd hyn.