Rheoli risg
Mae risg yn gyfrifoldeb ar yr holl staff yng ngholegau, ysgolion, adrannau, athrofeydd, adrannau gwasanaethau proffesiynol a safleoedd y Brifysgol.
Diffinnir risg fel bygythiad a digwyddiad ansicr yn y dyfodol a allai gael effaith niweidiol ar gyflawni amcanion. Yn wahanol i broblem, lle mae'r digwyddiad eisoes wedi codi, digwyddiad posibl a allai godi yw risg.
Pwrpas a Chwmpas y Polisi Rheoli Risg
Mae'r polisi hwn yn amlinellu sut y dylai gweithwyr reoli risgiau strategol a gweithredol. Mae'n sicrhau bod penderfyniadau gwybodus yn cael eu gwneud a chyfleoedd yn cael eu gwireddu.
Mae'r Polisi Rheoli Risg wedi'i lunio i gyfleu disgwyliadau arferion rheoli risg strategol a gweithredol, sicrwydd a llywodraethu ym Mhrifysgol Caerdydd, gan hyrwyddo cysondeb a gwella aeddfedrwydd rheoli risg y sefydliad.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y dogfennau hyn, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy anfon neges e-bost at web@cardiff.ac.uk. Cofiwch gynnwys yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Cysylltu â ni
Mae croeso cynnes i chi gysylltu â ni os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os oes angen sgwrs arnoch ynghylch rheoli risg: