Swyddogion Cydymffurfio Amgylcheddol
I wybod mwy am rôl ein Swyddogion Cydymffurfio Amgylcheddol yn y Brifysgol.
Y swydd
- Yn atebol i Bennaeth yr Ysgol/Pennaeth yr Adran.
- Gweithredu’n ddolen gyswllt rhwng yr Ysgol/Coleg/Gwasanaeth Proffesiynol a’r Tîm Diogelwch a Lles Staff (SSWEL) neu’r Tîm Sero Net fel y bo'n briodol.
- I fod yn aelod ex-officio o Bwyllgor Diogelwch, Iechyd ac Amgylchedd yr Ysgol/Coleg/ Gwasanaeth Proffesiynol.
- I gadw dogfennau amgylcheddol yn ymwneud â System Rheoli Diogelwch, Iechyd ac Amgylchedd yr Ysgol/Gwasanaeth Proffesiynol (gan gynnwys: nodi agweddau amgylcheddol a’u rôl yn rhan o HAZMAP, ac yn y lleoliad
- Amcanion a thargedau’r Ysgol/Coleg/Gwasanaeth Proffesiynol, cynnal cofrestr amgylcheddol Ysgol/Adran a monitro gwelliannau yn erbyn targedau).
- Dilyn rhaglen ddatblygu briodol, gan gynnwys cymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi ac ymwybyddiaeth fel bod safon briodol o wybodaeth am gynaliadwyedd amgylcheddol yn cael ei chynnal.
- Darparu cyngor cyffredinol ar gynaliadwyedd amgylcheddol, neu lle bo'n briodol, cyfeirio aelodau'r Ysgol/Coleg/Gwasanaeth Proffesiynol at Is-adran SSWEL neu’r Tîm Sero Net fel y bo'n briodol.
- Rhannu gwybodaeth ac adroddiadau am gynaliadwyedd amgylcheddol i aelodau priodol o staff a myfyrwyr yr Ysgol/Coleg/ Gwasanaeth Proffesiynol.
- Gweithio gyda Grŵp Llywio EMS y Brifysgol neu’r Tîm Sero Net fel y bo'n briodol ar weithredu amcanion a thargedau cynaliadwyedd amgylcheddol.
- Gweithredu’n ddolen gyswllt ar gyfer gwybodaeth a hyfforddiant sy'n ymwneud ag ADCDF (Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang).
- Cysylltu gyda Phwyllgor Diogelwch yr Ysgol/Coleg/Gwasanaeth Proffesiynol i adolygu gweithdrefnau cynaliadwyedd amgylcheddol yn yr Ysgol/Coleg/Gwasanaeth Proffesiynol.
Yr amser a awgrymir ar gyfer rolau ECO yw 1-2 awr yr wythnos gan ddibynnu ar faint yr Ysgol/Coleg/Gwasanaeth Proffesiynol.