Eich hawliau diogelu data
Mae gan unigolion nifer o hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data.
Ni fydd yr hawliau hyn yn gymwys ym mhob sefyllfa ond bydd yn dibynnu ar yr amgylchiadau sy'n gysylltiedig â'r broses data personol.
Yr hawl i gael mynediad
Mae gennych hawl i ofyn am gael gweld y data personol a ddelir gan y Brifysgol amdanoch chi. Fel arfer, byddwn yn ymateb i'ch cais o fewn mis.
I'ch helpu, mae gennym ffurflen gais gwrthrych am wybodaeth. Rydyn ni’n eich annog i lenwi’r ffurflen i’n helpu ni i nodi lleoliad(au) y data personol yn gywir. Fodd bynnag, os na allwch ddefnyddio'r ffurflen hon, nodwch yr holl fanylion angenrheidiol yn eich ebost:
- Eich enw, eich manylion adnabod a'ch manylion cyswllt
- Unrhyw enw arall yr oeddech yn cael eich galw gan y Brifysgol
- Disgrifiad o'r wybodaeth rydych yn chwilio amdani. Lle bo'n bosibl, dylech gynnwys:
- rhannau o'r Brifysgol (Ysgolion/Adrannau) sy'n debygol o gael y wybodaeth
- y cyfnod amser sy'n cwmpasu eich cais
- dogfennau penodol y Brifysgol
Os ydych yn gwneud cais ar ran unigolyn arall, rhannwch gopi o'r awdurdod a gawsoch i wneud y cais hwn ar ei ran.
Y manylion adnabod sydd eu hangen arnom yw'r canlynol:
Ar gyfer ceisiadau gan unigolion | |
Myfyriwr presennol | Copi o gerdyn adnabod myfyriwr a'i ddyddiad geni |
Aelod presennol o staff sy'n defnyddio cyfrif ebost preifat | Copi o gerdyn adnabod staff a'i ddyddiad geni |
Cyn-fyfyrwyr, staff blaenorol ac eraill | Copi o basbort neu drwydded yrru dilys |
Ar gyfer ceisiadau a wneir ar ran pobl eraill | |
Cwmnïau cyfreithiol trydydd parti yn y DU sy'n gweithredu ar ran yr unigolyn dan sylw | Ffurflen awdurdodi i weithredu ar ran yr unigolyn dan sylw ynghylch SAR |
Efallai y bydd angen i'r Brifysgol ofyn am wybodaeth ychwanegol gan yr unigolion sy'n gwneud ceisiadau i nodi'r pwnc neu i sefydlu'r awdurdod i gael gwybodaeth. Efallai y bydd angen i ni hefyd ymgynghori â thrydydd partïon lle mae gwybodaeth yn cynnwys eu data personol yn ogystal â'r unigolion sydd wedi rhannu eu data.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am eich hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth yn: Eich hawl i gael mynediad | ICO
Oherwydd pandemig presennol y Coronafeirws (COVID-19) , cyflwynwch eich cais drwy ebost.
Ffuflen Gais Mynediad Pwnc.docx
Cwblhewch y ffurflen gais mynediad pwnc i'n helpu ni i wybod lleoliad eich data personol.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Yr hawl i gywiro
Os dewch yn ymwybodol bod y wybodaeth sydd gennym amdanoch yn ffeithiol anghywir mae gennych hawl i ofyn am iddi gael ei chywiro.
Yr hawl i gael gwybodaeth
Mae gennych hawl i gael gwybod sut y bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio. Bydd hyn yn cael ei gyfathrebu drwy hysbysiadau diogelu data y Brifysgol
Yr hawl i ddileu
Gelwir hefyd yn 'hawl i gael eich anghofio'. Mae'r hawl hon yn gymwys o dan amgylchiadau penodol, megis pan fynnir cydsyniad ar gyfer prosesu yn ôl ac nid oes unrhyw sail gyfreithiol arall dros brosesu'r data neu unrhyw reswm argyhoeddiadol am ei brosesu'n barhol.
Yr hawl i gyfyngu ar brosesu
O dan rai amgylchiadau gallwch ofyn i'r Brifysgol gyfyngu dros dro ar brosesu eich data personol tra bod prosesu o'r fath yn cael ei adolygu.
Yr hawl i drosglwyddo data
Mae'r hawl hon yn berthnasol mewn amgylchiadau penodol, ac mae'n caniatáu i'r gwrthrych wneud cais i'r data a gedwir amdano gan reolwr gael ei symud i reolydd arall. Mae dim ond yn berthnasol i
- Data personol y mae unigolyn wedi'i ddarparu i reolydd,
- Pan fydd y prosesu'n seiliedig ar ganiatâd yr unigolyn neu ar gyfer cyflawni contract, a
- Pan fydd prosesu'n cael ei wneud drwy ddulliau awtomataidd
Yr hawl i wrthwynebu i brosesu
Gallwch wrthwynebu prosesu dan yr amgylchiadau hyn:
- Mae'n farchnata uniongyrchol
Ma'er hawl yn fwy cyfyngedig lle mae'r prosesu:
- yn seiliedig ar ddiddordebau cyfreithlon neu ar gyflawni tasg er budd y cyhoedd.
- yn cael ei brosesu ar gyfer ymchwil gwyddonol/hanesyddol ac ystadegau'
Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd
Mae gan unigolion hawl i beidio â bod yn destun penderfyniad a wnaed drwy ddulliau awtomataidd yn unig (h.y. gan raglen gyfrifiadurol) ac i broffilio.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am eich hawliau a phryd y gallant wneud cais ar dudalennau gwe Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Cyfeiriad i anfon ceisiadau am hawliau, gan gynnwys ceisiadau am fynediad pwnc
Anfonwch Geisiadau Mynediad Pwnc at: inforequest@caerdydd.ac.uk