Datganiad preifatrwydd Flipgrid
Mae’r hysbysiad hwn yn egluro sut mae’r Brifysgol a Flipgrid yn defnyddio data’r pobl a gyflogir yn y Brifysgol.
Prifysgol Caerdydd a Flipgrid yw rheolwyr y data ar gyfer y wybodaeth mae ein haelodau staff yn ei lanlwytho.
Drwy lanlwytho fideo, mae aelodau staff yn cytuno i Brifysgol Caerdydd ddefnyddio eich data at ddibenion y seremonïau dathlu rhithwir, ac i’r rhai sy’n ymweld â’r wefan hon ei weld.
Mae tudalennau Flipgrid ar gael i’r cyhoedd ac felly gall y cyhoedd gael gafael ar y fideos yr ydych yn eu lanlwytho a’u rhannu o bosibl. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen telerau defnyddio Flipgrid cyn lanlwytho eich fideo.
Caiff y fideo ei gadw ar weinyddion Flipgrid yn UDA, a bydd y Brifysgol yn cadw copi o’ch fideo am hyd at ddwy flynedd, i’w ddefnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol ac at ddibenion marchnata eraill, yn unol â buddiannau cyfreithlon y Brifysgol.
Os hoffech chi dynnu eich cytundeb yn ôl ar unrhyw adeg, ebostiwch cu-events@caerdydd.ac.uk.
Rhagor o wybodaeth am sut mae’r Brifysgol yn prosesu data personol gan gynnwys sut i roi eich hawliau ar waith.
Darllenwch ragor am hysbysiad preifatrwydd Flipgrid.