Datganiad preifatrwydd Dathliadau Rhithwir 2021
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn gysylltiedig â phrosesu data myfyrwyr at ddibenion trefnu a chyflwyno Dathliadau Rhithwir Graddedigion ‘21 Prifysgol Caerdydd.
Rheolwr y Data
Prifysgol Caerdydd fydd yn rheoli’r data personol a roddwch, felly mae'n gyfrifol yn gyfreithiol am brosesu eich data personol yn unol â deddfwriaeth diogelu data. First Sight Media Ltd, cwmni cynhyrchu digwyddiadau allanol, yw ein prosesydd data at ddibenion darlledu dathliadau rhithwir 2021.
Mae Prifysgol Caerdydd yn gofrestredig gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) fel Rheolwr Data er mwyn prosesu data personol. Rhif cofrestru Z6549747.
Manylion cyswllt y Swyddog Diogelu Data
Rhaid i'r Brifysgol gael swyddog diogelu data y gellir cysylltu â nhw os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, pryderon neu gwynion am y ffordd y caiff eich data personol ei brosesu. Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Prifysgol Caerdydd drwy ebostio InfoRequest@caerdydd.ac.uk
Pa ddata personol fyddwn ni’n ei gasglu?
Mae Prifysgol Caerdydd yn casglu gwybodaeth bersonol bob blwyddyn trwy'r broses raddio i wneud yn siŵr bod yr unigolyn yn cael ei hysbysu am y broses a’r cynlluniau ar gyfer y seremoni raddio wrth iddo ddatblygu. Mae Prifysgol Caerdydd yn casglu gwybodaeth bersonol fel eich enw, cyfeiriad ebost, cwrs gradd, gofynion arbennig. Eleni, bydd Prifysgol Caerdydd yn casglu'r un wybodaeth at ddibenion cyflwyno digwyddiadau dathlu rhithwir ar-lein yn 2021 a nwyddau graddedigion 2021.
Sut bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio?
Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i'ch hysbysu a'ch diweddaru am eich dathliad rhithwir a sicrhau eich bod yn cael y ddolen gywir at ddathliad ar-lein eich Ysgol a’ch cwrs gradd. Os byddwch chi'n cofrestru i fod yn rhan o'r dathliadau rhithwir yn 2021, bydd eich enw a'ch gradd yn cael eu cyhoeddi yn ystod y darllediad a byddant ar gael i'w gweld ar wefan y Brifysgol wedi hynny.
Beth yw’r sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol?
Darlledir Dathliadau Rhithwir trwy wefan Prifysgol Caerdydd, er mwyn i fyfyrwyr, eu ffrindiau a'u teulu eu gweld. Mae'n ofynnol i fyfyrwyr gydsynio i'w data gael ei rannu a'i brosesu gan y Brifysgol a First Sight Media Ltd er mwyn cymryd rhan yn y dathliadau rhithwir.
Mae ffrydio’r dathliadau rhithwir trwy wefan y Brifysgol, llwyfannau YouTube a Weibo yn galluogi'r cyhoedd i weld y dathliadau rhithwir. Bydd unigolion yn cael eu hysbysu y bydd y dathliadau rhithwir ar gael ar-lein. Ystyrir bod darlledu'r dathliadau rhithwir yn gwella profiad graddedigion.
Ar ôl ystyried y ffactorau hyn, ystyrir bod y prosesu hwn yn angenrheidiol at ddibenion y buddiannau dilys a ddilynir gan y rheolwr ac nid yw hyn yn diystyru hawliau a rhyddid yr unigolyn.
Pwy all gael gafael ar eich data personol?
Bydd gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu gan staff ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd data personol (enw, cyfeiriad ebost, cwrs gradd) hefyd yn cael ei rannu gyda First Sight Media Ltd a fydd yn hwyluso'r dathliadau rhithwir. Bydd y manylion hyn hefyd yn cael eu rhannu ag Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd at ddibenion cynhyrchu nwyddau.
 phwy y caiff eich data personol eu rhannu y tu allan i'r Brifysgol?
Bydd data personol (enw, cyfeiriad ebost, cwrs gradd) hefyd yn cael ei rannu gyda First Sight Media Ltd a fydd yn hwyluso darlledu’r dathliadau rhithwir.
Bydd y dathliadau rhithwir yn cael eu recordio a byddant ar gael i'w gweld ar wefan/cyfrif YouTube Prifysgol Caerdydd ar ôl y digwyddiad byw, felly mae'n bosibl y bydd pobl y tu allan i'r Brifysgol yn gweld eich enw, eich cwrs gradd a’ch recordiad fideo.
A yw data personol yn cael ei drosglwyddo y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd (UE)?
Mae data personol (enw, cyfeiriad ebost, cwrs gradd) yn cael ei gadw gan Google yn yr UE a'i gynnal gan Zoom yn UDA.
Am ba hyd y bydd eich data personol yn cael ei gadw?
Bydd eich data personol yn cael ei gadw gan First Sight Media Ltd ac yn cael ei ddileu o fewn 48 awr i ddathliadau rhithwir diwethaf 2021. Bydd unrhyw ddata a gedwir ar Zoom yn cael ei ddinistrio o fewn 30 diwrnod i ddathliadau rhithwir diwethaf 2021.
Bydd y dathliadau rhithwir yn cael eu recordio a byddant ar gael wedi hynny i'w gweld ar wefan/cyfrif YouTube Prifysgol Caerdydd.
Eich hawliau
O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawliau penodol a fydd yn gysylltiedig â'r sail gyfreithiol a ddefnyddir gennym i brosesu eich data. I gael rhagor o wybodaeth gweler y canllawiau canlynol a gyhoeddwyd gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Os hoffech chi dynnu eich cydsyniad i gymryd rhan yn y digwyddiad, ebostiwch CU-events@caerdydd.ac.uk.
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sy'n gyfrifol am reoleiddio diogelu data yn y DU. Rydym ni'n gobeithio y gallwn ddatrys eich cwestiynau, ymholiadau neu bryderon ond os ydych chi'n dal yn anfodlon gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.