Ein polisi diogelu data
Mae'r Brifysgol yn cymryd ei chyfrifoldebau o ddifrif wrth brosesu'r data personol mae'n ei gasglu am ei staff, myfyrwyr a phobl eraill mae'n ymwneud â nhw.
Mae Prifysgol Caerdydd yn Rheolydd Data at ddibenion deddfwriaeth diogelu data ac yn gofrestredig gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Data personol yw unrhyw ddata y gellir ei ddefnyddio fel ffordd o adnabod unigolyn byw. Caiff prosesu data personol ei gwmpasu gan ddeddfwriaeth diogelu data sy'n cynnwys y Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018.
Mae'r ddeddfwriaeth yn darparu fframwaith i sicrhau bod sefydliadau'n prosesu data personol mewn modd agored a thryloyw gydag ystyriaeth ddyledus i hawliau a rhyddid unigolion.
Ein polisi diogelu data
Polisi diogelu data
Polisi diogelu data
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Ein hysbysiadau preifatrwydd
I'ch helpu chi i ddeall sut y caiff eich data personol ei brosesu, yn ei hysbysiadau diogelu data rydym yn egluro
- pa wybodaeth rydym yn ei dal
- pam fod ei hangen
- y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu
- i bwy y gellir trosglwyddo'r data hwnnw.
Gallwch weld hefyd sut caiff eich gwybodaeth ei sicrhau ac am ba mor hir y caiff ei chadw.
Eich hawliau
Mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn rhoi’r hawl i chi weld pa wybodaeth mae sefydliad yn ei storio amdanoch a gwneud cais am gopïau ohoni yn ogystal â hawliau eraill mewn perthynas â phrosesu eich data personol.
Ceir rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn, ble gallent fod yn gymwys a sut i'w hymarfer yn eich hawliau diogelu data.
Swyddog diogelu data
Rhaid i'r Brifysgol gael swyddog diogelu data y gellir cysylltu â nhw os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, pryderon neu gwynion am y ffordd y caiff eich data personol ei brosesu. Swyddog Diogelu Data Prifysgol Caerdydd yw Andrew Lane.
Cysylltwch â ni
Gallwch gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data drwy ysgrifennu at:
Y Swyddog Diogelu Data
Cydymffurfiaeth a Risg, Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol
Prifysgol Caerdydd
42 Park Place
Cathays, Caerdydd
CF10 3BB
neu ar yr ebost isod
Gwasanaeth ceisiadau am wybodaeth
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sy'n gyfrifol am reoleiddio diogelu data yn y DU. Rydym ni'n gobeithio y gallwn ddatrys eich cwestiynau, ymholiadau neu bryderon ond os ydych chi'n dal yn anfodlon gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.