Deddf Cyllid Troseddol 2017
Rydym wedi ymrwymo i wneud yn siŵr ein bod yn cynnal ein busnes mewn ffordd agored, foesegol a thryloyw.
Daeth Deddf Cyllid Troseddol 2017 i rym ar 30 Medi 2017.
Cyflwynodd y Ddeddf drosedd gorfforaethol newydd am fethu ag atal parti arall rhag mynd ati i osgoi talu treth.
Nid ydym yn caniatáu unrhyw arferion osgoi talu treth ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau nad yw gweithwyr, is-gwmnïau, asiantau neu unrhyw un arall sy'n gweithredu ar ran y Brifysgol, yn hwyluso unrhyw fath o osgoi talu treth, naill ai yn y DU neu dramor.
I gael cyngor a chanllawiau pellach am ein polisïau ynghylch Deddf Cyllid Troseddol 2017, cysylltwch â thîm y Gwasanaeth Sicrwydd yn yr Adran Cynllunio Strategol a Llywodraethu.