Cod ymarfer teledu cylch cyfyng
Bwriad y Côd Ymarfer hwn yw sicrhau bod y systemau CCTV sefydlog sy’n cael eu gosod a’u defnyddio gan Brifysgol Caerdydd yn cydymffurfio â’r gyfraith, a bod cwmpas, diben a defnydd y systemau wedi’u diffinio’n glir ac yn gymesur.
Mae’r Côd Ymarfer hwn yn rhwymo holl weithwyr a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a holl weithwyr gwasanaethau sydd o dan gontract. Mae hefyd yn berthnasol i’r holl bersonau eraill a allai fod yn bresennol, am ba bynnag reswm, ar eiddo Prifysgol Caerdydd.
Gweithredir CCTV y Brifysgol gan y Gwasanaethau Diogelwch, fel rhan o’r Gwasanaethau Diogelwch a Phorthora (SECTY). Mae eu personél wedi’u cyflogi yn uniongyrchol gan Brifysgol Caerdydd. Ceir CCTV mewnol eilaidd hefyd a ddefnyddir yn y Canolfannau data ac ystafelloedd TG LAN / Cyfrifiadurol a weithredir gan staff ARCCA ac UITGB. Eiddo Prifysgol Caerdydd yw’r systemau CCTV hyn, gan gynnwys yr holl ddeunydd wedi’i recordio a’r hawlfraint.
Cardiff University CCTV Code of Practice May 2018 (Welsh)
Côd Ymarfer Teledu Cylch Cyfyng, Gwasanaethau Diogelwch a Phorthora, Prifysgol Caerdydd
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.