Mae'r rheoliadau hyn yn amlinellu ein calendr academaidd, ein rhaglenni a'u prosesau asesu yn ogystal â'n gweithdrefnau presenoldeb, ymgysylltu a chwynion.
Mae Polisi Urddas yn y Gwaith ac Wrth Astudio’r Brifysgol yn rhan o agwedd ledled y Brifysgol sy’n hyrwyddo diwylliant ac amgylchedd gweithio, dysgu ac ymchwil lle croesewir gwahaniaethau ac ni oddefir unrhyw fath o weithredu o aflonyddu, bwlio ac erledigaeth.
Mae ein cod ymarfer yn gosod y gweithdrefnau a’r ymddygiad angenrheidiol sydd eu hangen gan rhai hynny sy’n trefnu neu’n mynychu cyfarfodydd neu weithgareddau eraill.
Mae gennym ddyletswydd statudol i egluro’r camau y byddwn yn eu cymryd yn unol â’r gofynion yn Neddf Gwrthderfysgaeth 2015, fel maent yn berthnasol i ddarparwyr addysg uwch.