Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud
Gwybodaeth sefydliadol, strwythurau, lleoliadau a chysylltiadau.
Fframwaith cyfreithiol
Mae'r fframwaith cyfreithiol y mae'r Brifysgol yn gweithredu o fewn yn seiliedig ar ei Siarter, Statudau a Deddfiadau.
Ein trefn
Strwythur sefydliadol y Brifysgol:
- mae goruchwyliaeth dydd i ddydd y Brifysgol yn cael ei reoli gan yr Is-Ganghellor a'r uwch dîm rheoli sy'n ffurfio Bwrdd Rheoli'r Brifysgol
- mae llywodraethu'r Brifysgol yn cael ei oruchwylio gan y Cyngor a'r Senedd
- trefnir ein Hysgolion Academaidd yn dri Choleg
- mae'r Gwasanaethau Proffesiynol yn darparu gwasanaeth gweinyddol sy'n cefnogi gweithgarwch ymchwil, dysgu ac addysgu'r Brifysgol, ei staff a'i myfyrwyr
- mae gennym hefyd nifer o Swyddogion er Anrhydedd.
Lleoliad a manylion cyswllt
Rydym wedi ein lleoli yng Nghaerdydd, prif-ddinas Cymru. Mae ein hysgolion academaidd wedi eu lleoli ein campysau. Os oes angen i chi gysylltu ag Ysgol Academaidd neu Wasanaeth Proffesiynol, defnyddiwch ein teclyn chwilio am bobl.
Prif fanylion cyswllt
Prifysgol Caerdydd
Caerdydd
Cymru
CF10 3AT
DU
Ffôn: +44 (0)29 2087 4000
Ffacs: +44 (0)29 2087 4000
Sefydliadau rydym yn gyfrifol amdanyn nhw, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â nhw, rydym yn eu noddi, a chwmnïau sy’n eiddo yn gyfan gwbl neu’n rhannol i ni
Er mwyn gwneud y mwyaf o effaith ein hymchwil rydym yn mynd ati i weithio gydag amryw o bartneriaid, yn cynnwys busnesau bach a chanolig, corfforaethau amlwladol, y llywodraeth, asiantaethau rhyngwladol a nifer o gyrff eraill ledled y byd.
Mae rhestri a gwybodaeth sy’n ymwneud â chwmnïau sy’n eiddo’n gyfan gwbl i’r Brifysgol ar gael yn ein datganiadau ariannol blynyddol
Gweithgareddau myfyrwyr
Mae ein Hundeb Myfyrwyr yn darparu gwybodaeth sy’n ymwneud â gweithredu a gweithgareddau Undeb y Myfyrwyr a chlybiau, cymdeithasau a gweithgareddau anacademaidd eraill sy’n cael eu trefnu ar gyfer y myfyrwyr neu ganddyn nhw.