Polisi Traws
Rydym yn dathlu ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth ein cymuned ac rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd cefnogol ar gyfer staff a myfyrwyr traws.
Mae traws yn derm cynhwysol sy'n disgrifio pobl sydd â mynegiant rhywedd y tu hwnt i’r normau rhywedd nodweddiadol; er enghraifft pobl sy’n byw y tu hwnt i normau rhywedd yn barhaus, weithiau gydag ymyrraeth feddygol ac weithiau hebddo.
Nid yr un fath fydd unrhyw ddau brofiad traws. Rydym wedi gweithio gydag aelodau’r gymuned draws i ddatblygu ein polisi er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn cefnogi’r holl staff a myfyrwyr yn effeithiol ac yn effeithlon yn ystod eu proses o newid a’u hamser yn ein Prifysgol
Rydym yn falch o gael ein cydnabod gan Stonewall am ein hymdrechion hyd yma.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ennill gwobr arian ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2024. Hefyd, roedd hi yn y 109fed safle o blith 246 o gyflogwyr y DU am gynhwysedd pobl LHDTC+.
Polisi Traws
Gwybodaeth am gymorth i staff a myfyrwyr traws.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.