Cynllun cydraddoldeb strategol
Mae Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028 y Brifysgol yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer Prifysgol Caerdydd, sef ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth ledled ein sefydliad.
Yn y Cynllun mae chwe amcan sy'n ymdrin â nodweddion gwarchodedig oed, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gredo, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Mae'r cynllun hefyd yn ymdrin â’n hymrwymiad i'r Gymraeg ac i weithio mewn ffordd groestoriadol.
Mae ein cynllun yn canolbwyntio ar y Brifysgol a’r tu allan iddi fel ei gilydd, a’n nod yw cymryd rhan fwy ystyrlon yn ein cymunedau lleol a byd-eang.
Craidd Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028 y Brifysgol yw tri chyfeirbwynt allweddol a fydd yn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth.
Cynllun cydraddoldeb strategol 2024-2028
Mae'r cynllun hwn yn nodi sut rydym yn anelu at gyflawni ein hymrwymiad i gydraddoldeb a sut y byddwn yn bodloni rhwymedigaethau cyfreithiol sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Archif Cynllun Cydraddoldeb Strategol
Cysylltu
I gael rhagor o wybodaeth neu adborth, cysylltwch â: