Cydraddoldeb hiliol
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i fod yn sefydliad sy’n gwrthwynebu hiliaeth.
Rydym yn ddarparwr addysg ac yn gyflogwr blaenllaw yng Nghaerdydd, felly mae gennym gyfrifoldeb – cyfreithiol, moesegol, deallusol ac emosiynol – i fod yn gynhwysol ac i annog amrywiaeth o ran ffyrdd o feddwl a chamau gweithredu.
Er gwaethaf ein gwaith hyd yma i sicrhau ethos gwrth-hiliol, rydym yn cydnabod ein bod ar daith — un yr ydym yn ymgymryd â hi mewn modd agored ac yn awyddus i ddysgu. Mae gan bob aelod o'n cymuned rôl bwysig er mwyn gwneud yn siŵr bod profiad byw pob aelod staff a phob myfyriwr yn cyd-fynd â'n dyheadau.
Dros y chwe mis diwethaf, rydym wedi cymryd sawl cam pwysig i wella ein dealltwriaeth ac ehangu mynediad i gymunedau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol. Mae'r rhain yn cynnwys y gweithgareddau newydd canlynol:
- gwahodd yr Athro Dinesh Bhugra yn ôl i'r brifysgol, i adolygu ein cynnydd ar faterion cydraddoldeb hiliol, yn dilyn yr adolygiad annibynnol a arweiniodd bum mlynedd yn ôl (2017). Mae ei adroddiad yn cydnabod ein cynnydd hyd yma yn ogystal ag ehangder ac ansawdd y gwaith yr ydym wedi’i wneud. Mae hefyd yn rhoi argymhellion ar gyfer gwella, ac rydym wedi derbyn y rhain yn llawn
- paratoi cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol i'w roi ar waith yn rhan o'n Cynllun Cydraddoldeb Strategol sefydliadol
- recriwtio Pennaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, rôl newydd fydd yn atebol yn uniongyrchol i'r Dirprwy Is-Ganghellor, ac yn gyfrifol am arwain, cydlynu a chefnogi'r gwaith o gyflwyno gweithgareddau EDI ar draws y brifysgol
- penodi ein Rheolwr Ehangu Cyfranogiad cyntaf ar gyfer Amrywiaeth a Chynhwysiant, sydd ar hyn o bryd yn cwmpasu'r rhwystrau i brifysgol Caerdydd ar gyfer grwpiau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, gan ganolbwyntio yn y lle cyntaf ar fyfyrwyr Du Prydeinig
- mynd i'r afael â'r bwlch dyfarnu yng nghyd-destun pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn rhan o brosiect cynhwysfawr 'Cwricwlwm Cynhwysol'
- cydweithio â Sefydliad Ysgoloriaethau Cowrie i gynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr Du Prydeinig dan anfantais ariannol.
- ymuno â Chytundeb Swyddi Cymunedol/Citizens Cymru, i wella amrywiaeth wrth recriwtio staff ac i alluogi ein staff i symud ymlaen a datblygu mewn gweithle cefnogol
- lansio ein cyfres 'Trafod Gwrth-hiliaeth', lle mae ein harbenigwyr academaidd yn cydweithio â siaradwyr gwadd arbenigol i gynnal trafodaethau pwysig am hiliaeth
- lansio Pŵer Rhieni Caerdydd yn Grangetown, Caerdydd. Gan weithio gyda'r Brilliant Club, rydym yn creu cymuned o rieni sy’n cael eu galluogi i wneud newidiadau i gefnogi dyfodol eu plant a gwneud yn siŵr bod eu plant yn cael cyfle teg mewn addysg a'u gyrfaoedd yn y dyfodol
- dod yn sefydliad cefnogol Cynghrair Hil Cymru a llofnodi addewid Dim Hiliaeth Cymru Cyngor Hil Cymru
Rydym wedi ymrwymo i ddeialog agored, dryloyw a heriol ynghylch hiliaeth, ac am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn fwy cyffredinol — gan sylweddoli pa mor hanfodol bwysig yw croestoriadedd.
Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru'n rheolaidd i nodi ein cynnydd; dylai'r rhai sydd â diddordeb mewn cael gwybod rhagor am ein gwaith yn y maes hwn gysylltu â: