Archif Sefydliadol
Mae ein Harchif Sefydliadol yn casglu cofnodion a grëwyd gan Brifysgol Caerdydd neu sy’n ymwneud â’r Brifysgol er mwyn cadw cof corfforaethol y Brifysgol yn barhaol a’i wneud yn hygyrch.
Mae Casgliadau’r Archifau Sefydliadol yn cynnwys cofnodion Prifysgol Caerdydd a’i ragflaenwyr, gan gynnwys:
- Coleg y Brifysgol, Caerdydd (Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy, gynt)
- Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru
- Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru.
Mae’r casgliadau yn cynnwys llyfrau llythyrau, ffotograffau, toriadau papur newydd, gweithredoedd, siarteri, llyfrau cofnodion, cynlluniau, cyfrifon, ffeiliau a chyhoeddiadau swyddogol fel prosbectysau a rhaglenni.
Mae gan yr Archif nod hirdymor i gwrdd â Safonau’r Archifau Cenedlaethol ar gyfer Storfeydd Cofnodion ac Archifau
Polisi Caffael
Y Polisi Sefydliadol ynghylch Caffael yr Archif
Pwrpas y polisi yw disgrifio’r categorïau o gofnodion a fydd yn cael eu casglu a’u cadw gan yr Archif Sefydliadol.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Cysylltwch â ni ar gyfer ymholiadau am archifau sefydliadol a rheoli cofnodion.