Gwybodaeth ariannol
Roedd gan y Brifysgol ddiffyg gweithredol o £31.2 miliwn yn 2023/24 cyn amhariadau a’r newid yn narpariaethau’r cynllun pensiwn.
Yn 2023/24 cynyddodd cyfanswm ein hincwm i £649m, i fyny o £636m yn 2022/23. Ein gwariant oedd £680m heb gynnwys newidiadau yn narpariaeth cynllun pensiwn USS gwerth £163m a chredydau nad yw'n arian parod yn y gronfa bensiwn gwerth £6m.

Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol 2024
Y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2024.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Diffyg sylfaenol

Costau gweithredu | (£m) |
---|---|
Gwariant fesul datganiadau ariannol | 512 |
Addasu’r gostyngiad yn narpariaeth USS | 162 |
Addasu credydau’r gronfa bensiwn nad ydynt yn arian parod | 6 |
Costau Gweithredu Sylfaenol | 680 |
Incwm fesul datganiadau ariannol | 649 |
Diffyg sylfaenol | (31) |
Symudiadau pensiwn | 165 |
Enillion ar fuddsoddiadau | 37 |
Gwerthu buddsoddiadau anghyfredol | 7 |
Symudiadau eraill | (1) |
Gwarged Cynhwysfawr y Flwyddyn | 177 |
Cynhyrchwyd gennym £1.8m o arian parod yn sgil gweithgarwch gweithredu, gan fuddsoddi £54m i gaffael adeiladau a chyfarpar i staff a myfyrwyr.
Arian parod a'r hyn sy'n cyfateb i arian parod

(£m) | |
---|---|
Arian parod cychwynnol | 36.6 |
Gweithgareddau gweithredu | 1.8 |
Buddsoddiad (gweler isod) | 73.4 |
Cyllido | (-6.0) |
Arian parod terfynol | 105.8 |
Buddsoddiadau

Gweithgareddau buddsoddi | £m |
---|---|
Buddsoddiad mewn tir ac adeiladau | 33.4 |
Buddsoddiad mewn cyfarpar | 20.3 |
Derbynebau grant cyfalaf | (9.8) |
Incwm yn sgil buddsoddiadau | (11.7) |
Cynnydd mewn adneuon | (106.7) |
Buddsoddiadau eraill | 1.0 |
Cynfanswm | (73.4) |
Buddsoddiad mewn Adeiladau

Buddsoddiad mewn Adeiladau | £m |
---|---|
Y Ganolfan Ymchwil Drosi (TRH) | 5.02 |
Gorllewin Parc y Mynydd Bychan | 8.10 |
Adeilad Aberconwy | 3.43 |
50/51 Plas y Parc | 3.66 |
Y Prif Adeilad | 3.40 |
Preswyl | 3.15 |
Buddsoddiad mewn adeiladau eraill | 6.65 |
Cyfanswm | 33.4 |
Buddsoddiad mewn cyfarpar

Buddsoddiad mewn cyfarpar | £m |
---|---|
Ymchwil / Labordy | 7.55 |
Cyfrifiaduron / Seilwaith TG | 8.13 |
Cyfarpar arall | 4.66 |
Cyfanswm | 20.33 |
Rydym wedi parhau i wynebu heriau economaidd enbyd yn y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2024.
Mae costau cynyddol wedi parhau i roi straen ar gyllideb y Brifysgol ac er gwaethaf y gostyngiad mewn chwyddiant yn ystod y flwyddyn, mae'r lefelau uchel cynharach wedi cael effaith hirhoedlog.
Roedd y twf yn refeniw y ffioedd dysgu yn is na'r disgwyl. Fe’i rhwystrwyd gan effaith cyfyngiadau fisa newydd ac ansicrwydd economaidd byd-eang parhaus o ran marchnad y myfyrwyr rhyngwladol.
Mae cyfraddau llog wedi parhau'n uchel yn ystod y flwyddyn, gan arwain at incwm buddsoddi uwch ac mae gwerth ein portffolio buddsoddi hefyd wedi cynyddu sy'n adlewyrchu perfformiadau’r marchnadoedd byd-eang.
O ble y daw ein harian
Cawsom 6.0% yn fwy na’r llynedd mewn ffioedd dysgu a chontractau addysg (yn dilyn gostyngiad yn 2022/23), a chafwyd twf pellach mewn incwm buddsoddi, rhoddion a gwaddolion. Gwrthbwyswyd hyn yn rhannol gan ostyngiad mewn incwm ymchwil a grantiau cyrff cyllido.
Cyfanswm yr incwm

Cyfanswm yr Incwm | £m |
---|---|
Ffioedd dysgu a chontractau addysg | 328.3 |
Grantiau cyrff cyllido | 83.2 |
Grantiau a chontractau ymchwil | 126.5 |
Incwm arall | 95.2 |
Incwm yn sgil buddsoddiad | 11.7 |
Rhoddion a gwaddolion | 4.2 |
Cynfanswm | 649.1 |
Yr hyn rydym yn gwario ein harian arno
Yn 2023/24, (cyn credydau pensiwn) gwariasom £680m o gymharu â £649m y flwyddyn flaenorol. Cafwyd y cynnydd o £31m yn bennaf oherwydd costau staff uwch a gwariant Adeiladau (oherwydd chwyddiant costau cyfleustodau yn bennaf).
Cynyddodd niferoedd cyfartalog y staff cyfwerth ag amser llawn (CALl) 1.3%, mewn meysydd academaidd yn bennaf, gan adlewyrchu newidiadau yn arferion cyflogaeth ein hymchwilwyr ôl-raddedig. 59.0% oedd costau’r staff yn gyfran o’r incwm, sef cynnydd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol (57.1%). Cyflwynwyd rheolaethau recriwtio a chynllun diswyddo gwirfoddol yn ystod Blwyddyn Ariannol 2024/25 i reoli a lleihau costau staff.
Cynyddodd costau gweithredu £8.3 miliwn i £234.6 miliwn yn ystod y flwyddyn, yn bennaf oherwydd costau cyfleustodau a chynnal a chadw cynyddol yn bennaf. Cyfyngwyd gwariant i feysydd busnes-gritigol pan oedd yn bosibl, a hynny i leddfu ar y pwysau ariannol.
Cyfanswm y gwariant
