Ein portffolio buddsoddi
Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn gwneud penderfyniadau buddsoddi mewn modd cyfrifol a gonest.
Mae ein Polisi Buddsoddi Cymdeithasol Gyfrifol yn sail i bob buddsoddiad a wnawn. Mae'n caniatáu i'r Brifysgol weithredu gydag agwedd foesegol tra'n lleihau unrhyw effaith negyddol ar yr enillion a wnawn wrth fuddsoddi. Gwnawn hyn wrth weithredu arweiniad y Comisiwn Elusennau ar ein dyletswydd i fuddsoddi er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflawni ein diben fel elusen.
Mae’r Brifysgol yn disgwyl i’r Rheolwyr Buddsoddi penodedig fuddsoddi yn unol â’n polisi. Mae polisi buddsoddi'r Brifysgol yn gwahardd buddsoddi'n uniongyrchol mewn cwmnïau sy'n gweithio ym maes tybaco ac arfau.
Mae hefyd yn gwahardd buddsoddiadau mewn cwmnïau heb Gôd Moeseg eglur, nad ydyn nhw’n cydymffurfio ag Egwyddorion Compact y Cenhedloedd Unedig ac sy’n buddsoddi mewn Tanwyddau Ffosil. Mewn adolygiadau perfformiad a gynhelir yn rheolaidd, rydyn ni’n ystyried sut mae rheolwyr buddsoddi yn ystyried ein polisïau buddsoddi cymdeithasol gyfrifol wrth wneud penderfyniadau buddsoddi.
Ein buddsoddiadau
Er mwyn bod yn agored ac yn dryloyw, rydyn ni wedi ymrwymo i gyhoeddi rhestr o fuddsoddiadau sydd gan y Brifysgol ym mhob cwmni.
Cyhoeddir gwybodaeth gan bob un o’n Rheolwyr Buddsoddiadau yn flynyddol i gyd-fynd â chyhoeddi Datganiadau Ariannol y Brifysgol.
Prifysgol Caerdydd - Cronfa Gyfalaf Tymor Byr
Dadansoddiad o'r buddsoddiadau a ddelir gyda Sarasin & Partners.
Prifysgol Caerdydd - Cronfa Gyfalaf Tymor Canolig
Dadansoddiad o'r buddsoddiadau a ddelir gyda Sarasin & Partners.
Prifysgol Caerdydd - Cronfa Tymor Canolig
Dadansoddiad o'r buddsoddiadau a ddelir gyda Barclays.
Prifysgol Caerdydd - Cronfa Hirdymor
Dadansoddiad o'r buddsoddiadau a ddelir gyda Barclays.
Prifysgol Caerdydd - Cronfa Ad-dalu Bondiau
Dadansoddiad o'r buddsoddiadau a ddelir gyda Barclays.
Prifysgol Caerdydd - Cronfeydd Gwaddol
Dadansoddiad o'r buddsoddiadau a ddelir gyda CCLA (Cronfa Foesegol COIF)
Mae'r Brifysgol hefyd yn buddsoddi mewn cronfeydd ecwiti, fel y manylir yn Natganiadau Ariannol y Brifysgol.