Gwybodaeth ariannol
Cadwodd y Brifysgol ddiffyg gweithredu sylfaenol o £12.7m yn 2022/23, cyn y newid yn narpariaeth pensiynau cynllun USS.
Yn 2022/23 cynyddodd cyfanswm ein hincwm i £636m, i fyny o £634m yn 2021/22. Ein gwariant oedd £639m gan gynnwys credydau cronfeydd pensiwn nad yw'n arian parod o £10m.
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/1279637/DefaultLogo.png?w=100&h=100&auto=format&fit=crop)
Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol 2023
Y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2023.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Diffyg sylfaenol
![Graff bariau sy’n dangos dadansoddiad o ddiffyg gwaelodol y Brifysgol, sef cyfanswm o 12.7 miliwn o bunnoedd. Mae'n dangos costau gweithredu sy'n cynnwys gwariant net o 639 miliwn o bunnoedd, gan ychwanegu credydau cronfa bensiwn nad yw’n arian parod o 10 miliwn o bunnoedd, sef cyfanswm y costau sylfaenol o 649 miliwn o bunnoedd. Mae hefyd yn dangos incwm o 636 miliwn o bunnoedd.](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/2790675/Underlying-Deficit-Welsh.jpg?w=575&ar=16:9)
Costau gweithredu | (£m) |
---|---|
Gwariant | 639 |
Ychwanegu credydau cronfa bensiwn nad ydynt yn arian parod | 10 |
Costau Gweithredu Sylfaenol | 649 |
Incwm | 636 |
Costau Gweithredu Sylfaenol | -649 |
Diffyg sylfaenol | -13 |
Cynhyrchwyd gennym £30m o arian parod yn sgil gweithgareddau gweithredu, gan fuddsoddi £57m i gaffael adeiladau a chyfarpar i staff a myfyrwyr.
Arian parod a'r hyn sy'n cyfateb i arian parod
![Graff bariau sy’n dangos symudiadau yn arian parod y Brifysgol a’r hyn sy’n gyfwerth ag arian parod yn 2022/2023. Y swm ar ddechrau’r flwyddyn oedd £96.4m, cynhyrchwyd 30.3m yn sgil gweithgareddau gweithredu, buddsoddwyd £76.2m a gwariwyd 13.9m ar ariannu.](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0011/2790677/Cash-and-cash-equialent-Welsh.jpg?w=575&ar=16:9)
(£m) | |
---|---|
Arian parod cychwynnol | 96.4 |
Gweithgareddau gweithredu | 30.3 |
Buddsoddiad (gweler isod) | -76.2 |
Cyllido | -13.9 |
Arian parod terfynol | 36.6 |
Buddsoddiadau
![Graff bariau sy’n dangos sut y buddsoddodd y Brifysgol ei harian rhwng 2022 a 2023, gan wario 33.5 miliwn ar dir ac adeiladau, 23 miliwn ar gyfarpar a 19.7 miliwn ar fuddsoddiadau eraill. Y cyfanswm yw 76.2 miliwn o bunnoedd.](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/2790683/Investment-Welsh.jpg?w=575&ar=16:9)
Gweithgareddau buddsoddi | £m |
---|---|
Buddsoddiad mewn tir ac adeiladau | 33.5 |
Buddsoddiad mewn cyfarpar | 23.0 |
Buddsoddiadau eraill | 19.7 |
Cynfanswm | 76.2 |
Buddsoddiad mewn Adeiladau
![Graff bariau sy’n dangos dadansoddiad o fuddsoddiad y Brifysgol o 33.5 miliwn mewn adeiladau, sef gwariant o 7.42 miliwn ar y Ganolfan Ymchwil Drosi, 8.79 miliwn ar adleoli gofal iechyd a 17.2 miliwn ar fuddsoddi mewn adeiladau eraill.](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/2790690/Investment-in-Buildings-Welsh.jpg?w=575&ar=16:9)
Buddsoddiad mewn Adeiladau | £m |
---|---|
Y Ganolfan Ymchwil Drosi (TRH) | 7.42 |
Adleoli gofal iechyd | 8.79 |
Buddsoddiad mewn adeiladau eraill | 8.79 |
Cyfanswm | 33.50 |
Buddsoddiad mewn cyfarpar
![Graff bariau sy’n dangos dadansoddiad o fuddsoddiad 23 miliwn o bunnoedd y Brifysgol mewn cyfarpar, sef gwariant o 9.49 miliwn ar gyfarpar ymchwil, 5.36 miliwn ar gyfrifiaduron ac 8.15 ar fuddsoddiadau eraill.](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0004/2790697/Investment-in-Equipment-Welsh.jpg?w=575&ar=16:9)
Buddsoddiad mewn cyfarpar | £m |
---|---|
Cyfarpar ymchwil | 9.49 |
Cyfrifiaduron | 5.36 |
Cyfarpar arall | 8.15 |
Cyfanswm | 23.00 |
Parhaodd y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2023 i’n herio, o ystyried bod heriau economaidd newydd wedi cyrraedd lefelau chwyddiant nas gwelwyd ers yr 1980au, yn enwedig mewn perthynas â chostau ynni.
Cafwyd colledion yng ngwerth ein portffolio buddsoddi ond arweiniodd cyfraddau llog uwch at newidiadau cadarnhaol yn ein rhwymedigaeth o ran pensiynau.
Roedd her chwyddiant yn golygu bod effaith wedi bod ar staff a myfyrwyr fel ei gilydd, ac aethom ati i gynnig cymorth gan wneud (ymhlith pethau eraill) taliadau unwaith ac am byth, dyfarniadau cyflog carlam, a rhagor o daliadau caledi i fyfyrwyr.
Bu gostyngiad hefyd yn incwm y ffioedd dysgu, a hynny’n bennaf o ganlyniad i beidio â chyflawni ein targedau recriwtio tramor, elfen a gafodd ei gwrthbwyso gan gynnydd mewn incwm ymchwil.
O ble y daw ein harian
Cawsom 4.0% yn llai na'r llynedd yn y ffioedd dysgu a chontractau addysg, a chafodd hyn ei wrthbwyso gan ymchwil ac incwm uwch yn ymwneud â gwasanaethau masnachol. Parhaodd y gweithgarwch ymchwil i dyfu yn ystod y flwyddyn ariannol hon, gan greu £134 miliwn o incwm.
Cyfanswm yr incwm
![Siart gylch sy’n dangos tarddiad cyfanswm incwm y Brifysgol, sef 636 miliwn o bunnoedd. Daw 1.4 miliwn o bunnoedd o roddion a gwaddolion, daw 310.6 miliwn o bunnoedd o ffioedd dysgu a chontractau addysg, 90.2 miliwn o grantiau cyrff cyllido, 113.6 miliwn o grantiau cyrff cyllido, 133.6 miliwn o bunnoedd o grantiau a chontractau ymchwil, 90.9 miliwn o incwm arall a 9.7 miliwn o bunnoedd o incwm buddsoddi.](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/2790699/Total-Income-Welsh.jpg?w=575&ar=16:9)
Cyfanswm yr Incwm | £m |
---|---|
Ffioedd dysgu a chontractau addysg | 310.6 |
Grantiau cyrff cyllido | 90.2 |
Grantiau a chontractau ymchwil | 133.6 |
Incwm arall | 90.9 |
Incwm yn sgil buddsoddiad | 9.7 |
Rhoddion a gwaddolion | 1.4 |
Cynfanswm | 636.4 |
Yr hyn rydym yn gwario ein harian arno
Yn 2022/23, gwariasom £639m o’i gymharu â £607m y flwyddyn flaenorol. Cafwyd cynnydd o £32m, yn bennaf oherwydd y cynnydd mewn gwariant ar eiddo a gwariant academaidd.
Ar gyfartaledd, cynyddodd nifer y staff cyfwerth ag amser llawn 3%, a hynny’n bennaf mewn meysydd academaidd wrth inni ymdrechu i wella profiad y myfyriwr a chyflawni ein hymrwymiadau ymchwil. Roedd costau staff ar sail cyfran o’r incwm yn cyfateb i 57.1%, sef cynnydd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol (54.2%).
Cynyddodd y treuliau gweithredu £13.4m i £226.3 miliwn yn ystod y flwyddyn. Rydym yn buddsoddi ymhellach yn y gwaith o gefnogi staff a myfyrwyr yn ogystal â sicrhau campws diogel tra bod amrywolion Covid-19 yn dal i gylchredeg ym mhoblogaeth y DU yn gyffredinol.
Cyfanswm y gwariant
![Graff bariau sy’n dangos yr hyn y gwariodd y Brifysgol ei harian arno yn 2022-2023. Mae’n dangos cyfanswm gwariant o 639 miliwn o bunnoedd. Gwariwyd 304 miliwn o’r swm hwn ar wariant academaidd a chysylltiedig, 91 miliwn ar ymchwil, 81 miliwn ar safleoedd, 77 miliwn ar wasanaethau gweinyddol a chanolog, 66 miliwn ar wasanaethau eraill, ac 20 miliwn ar breswylfeydd, arlwyo a chynadleddau.](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0004/2790706/Total-Activity-spend-Welsh.jpg?w=575&ar=16:9)
Gwnaethom agor y Ganolfan Ymchwil Drosi yn swyddogol ym mis Mai. Diben craidd y Ganolfan hon yw darparu ymchwil wyddonol sy'n cael ei throi'n gyflym yn gynnyrch a phrosesau newydd sydd o fudd i’r gymdeithas.
Bydd y Ganolfan hefyd yn creu swyddi o safon i raddedigion ac yn rhoi hwb i dwf economaidd yn ein rhanbarth.