Y Pwyllgor Llywodraethu
Mae’r Pwyllgor Llywodraethu’n un o Brif Bwyllgorau Cyngor y Brifysgol.
Mae’n cynghori ac yn gwneud argymhellion i’r Cyngor ar faterion sy’n ymwneud â strwythur llywodraethu a fframwaith y brifysgol.
Mae’n sicrhau y cedwir at ofynion deddfwriaeth a rheoliadau eraill sy’n berthnasol i’r brifysgol. Mae’n goruchwylio materion cyfreithiol a chyfansoddiadol, gan gynnwys y Siarter, y Statudau a’r Ordinhadau.
Mae'r Pwyllgor Llywodraethu hefyd yn goruchwylio’r broses o benodi’r Cadeirydd, Is-gadeirydd ac aelodau lleyg y Cyngor, gan gynnwys adolygu cynrychioliad ar y Cyngor, a threfniadau sefydlu, datblygu ac adolygu blynyddol.
Is-bwyllgorau
Mae gan y Pwyllgor Llywodraethu sawl is-bwyllgor:
- Is-bwyllgor Safonau Biolegol
- Is-bwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
- Is-bwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles
- Is-bwyllgor Enwebiadau
- Is-bwyllgor Gonestrwydd a Moeseg Ymchwil Agored y Brifysgol (cyd-bwyllgor gyda’r Senedd)