Pensiwn Prifysgol Caerdydd
Mae ar gael i bob aelod o’r staff ar raddau 1 i 4.
Byddwch yn dod yn aelod yn awtomatig pan fyddwch yn dechrau gweithio i’r Brifysgol. Gweinyddir Cynllun Pensiwn Prifysgol Caerdydd gan Legal & General.
Mae Cronfa Bensiwn Prifysgol Caerdydd wedi bod ar gau i aelodau newydd ers 1 Mawrth 2022.
Sut mae cythrwfl y farchnad yn effeithio ar fy mhensiwn CUPF?
Rwy'n siŵr eich bod wedi sylwi ar yr helynt sylweddol ar y farchnad yn dilyn 'cyllideb fach' Llywodraeth y DU ac wedi darllen yn y wasg am yr effaith ar gronfeydd pensiwn.
Efallai eich bod yn ymwybodol bod Banc Lloegr wedi ymyrryd, a bod y Llywodraeth wedi gwneud gwrthdroi’r newidiadau polisi arfaethedig a amlinellir yn y gyllideb fach. Mae hyn wedi tawelu'r marchnadoedd. Mae pethau'n dal i symud yn gyflym ond byddwch yn dawel eich meddwl bod ein Hymddiriedolwyr, gyda chefnogaeth ein cynghorwyr, yn monitro'r sefyllfa'n ddyddiol, ac yn cymryd camau priodol, yn ôl yr angen.
Mae sefyllfa ariannu ein cynllun pensiwn yn gryf, ac mae'r gallu i dalu budd-daliadau pensiynau yn parhau i fod yn ddiogel. Mae Prifysgol Caerdydd fel noddwr yn parhau i sefyll y tu ôl i'r cynllun ac mae ganddi'r nerth ariannol i gefnogi'r cynllun yn y pendraw.
Does dim rheswm felly i aelodau fod yn bryderus - byddwn yn sicrhau ein bod yn parhau i roi gwybod i chi am unrhyw newidiadau nodedig.
Datganiad o Egwyddorion Buddsoddi
Mae'r datganiad hwn yn manylu ar y polisïau sy'n rheoli sut mae cynllun pensiwn yn buddsoddi.
Mae'n nodi'r egwyddorion sy'n llywodraethu sut mae penderfyniadau buddsoddi’n cael eu gwneud, ac fe'i paratowyd yn unol â'r holl ddeddfwriaeth berthnasol a chanllawiau ar arfer gorau.
Bydd yn cael ei adolygu gan yr Ymddiriedolwyr o leiaf bob tair blynedd, neu ar ôl unrhyw newid sylweddol yn y dull buddsoddi.
Cardiff University Pension Fund: Statement of Investment Principles - October 2023 (Welsh)
Mae'r SIP hwn yn nodi polisi'r Ymddiriedolwyr ar faterion sy'n ymwneud â phenderfyniadau ynghylch buddsoddiadau Cynllun Pensiwn Prifysgol Caerdydd.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Adroddiadau a datganiadau
Cardiff University Pension Fund: Funding statement summary - April 2022
A funding statement summary produced by Deloitte for the Cardiff University Pension Fund, April 2022.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Cronfa Bensiwn Prifysgol Caerdydd: Adroddiad Blynyddol ESG - Tachwedd 2023
Mae'r ddogfen hon yn darparu crynodeb lefel uchel o'r polisïau hyn ar gyfer pob un o'r rheolwyr buddsoddi.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Cronfa Bensiwn Prifysgol Caerdydd: Datganiad Gweithredu 2022
Paratowyd y Datganiad hwn gan yr Ymddiriedolwyr gyda chymorth eu Ymgynghorydd Buddsoddi penodedig (Quantum Advisory).
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Cardiff University Pension Fund: Annual report and financial statements 2022
Annual report and financial statements for the year ended 31 July 2022.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Gall aelodau o’r staff gael rhagor o wybodaeth am y gronfa bensiwn ar fewnrwyd y staff.