Niwrowyddoniaeth ymddygiadol

Rydym yn dadansoddi prosesau sylw, gwybyddiaeth, emosiwn, dysgu, cof, a chymhelliant.
Rydym yn dadansoddi y systemau niwral y mae’r prosesau hyn yn dibynnu arnynt, a’r dulliau genetig sy’n gysylltiedig â’r rhain.Mae ein gwaith ymchwil yn ymwneud â deall y prosesau hyn mewn organebau iach, ac mewn gwahanol gyflyrau clefydau.
Mae’r grwpiau hyn wedi datblygu cysylltiadau rhyngddisgyblaethol da gyda Chanolfan MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig, Sefydliad Ymchwil Dementia, a Sefydliad Ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl.
Staff cysylltiedig

Dr William Davies
Senior Lecturer, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences
- daviesw4@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 0152

Yr Athro Lawrence Wilkinson
Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Arloesi er Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl
- wilkinsonl@caerdydd.ac.uk
- +44(0) 29 2068 8461
Cymrodyr Ymchwil

Dr Aline Bompas
Senior Lecturer, Joint-Lead for Cognitive Neuroscience
- bompasae@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 0709

Dr Claudia Metzler-Baddeley
Reader, NIHR/HCRW Advanced Research Fellow
- metzler-baddeleyc@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 0705

Yr Athro Petroc Sumner
Professor and Head of School of Psychology
- sumnerp@caerdydd.ac.uk
- +44(0)29 2087 0091

Dr Christoph Teufel
Senior Lecturer, Joint-Lead for Cognitive Neuroscience
- teufelc@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5372
Cymrodyr Ymchwil
Gwyddoniaeth ddelweddu
Rydym yn gwneud gwaith ymchwil i optimeiddio delweddau, delweddu niwroffisiolegol a swyddogaeth niwrodrosglwyddyddion a delweddu clinigol a gwybyddol. Rydym yn defnyddio technolegau delweddu datblygedig i wneud ymchwil i strwythur a swyddogaeth y corff dynol, gan ganolbwyntio’n benodol ar niwrowyddoniaeth. Mae ein gwaith ymchwil yn cynnwys datblygu dulliau caffael a dadansoddi newydd, a’u cymhwyso yn y ffordd orau posibl ym maes niwrowyddoniaeth sylfaenol, gwybyddol a chlinigol.
Thema allweddol yw niwroddelweddu aml-foddol, gan gydnabod y manteision sylweddol a ddaw o gyfuno’r mewnwelediadiadau y mae’r dulliau gwahanol yn eu cynnig. Mae’r rhan fwyaf o staff ymchwil yng ngrŵp gwyddoniaeth ddelweddu yn defnyddio dau neu fwy o’n technolegau craidd. Mae'r rhain yn cynnwys MRI, MEG, EEG a TMS.
Cymrodyr Ymchwil
Canolfannau a sefydliadau
Mae Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) yn cyfuno arbenigedd o'r radd flaenaf ym maes mapio'r ymennydd â'r gwaith diweddaraf ym maes delweddu'r ymennydd ac ysgogi’r ymennydd.