Mesur ymddygiadau ailadroddus drwy gydol oes
Mae ymchwilwyr yng Nghanolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru Prifysgol Caerdydd wedi creu holiadur sy'n fesur a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer ymddygiad ailadroddus.
Mae'r Holiadur Ymddygiad Ailadroddus (RBQ-3) wedi'i gyfieithu i nifer o ieithoedd. Fe'i defnyddir yn helaeth mewn ymarfer clinigol ar draws y byd, gan ymchwilwyr a'r boblogaeth gyffredinol yn ogystal.
Mae ymddygiad ailadroddus yn rhan o'r meini prawf diagnostig ar gyfer awtistiaeth ac maent yn cynnwys ymddygiad echddygol, arferion, ymatebion synhwyraidd, diddordebau â ffocws, a ffafriaeth o ran cadw cysondeb. Mae’n bwysig nodi bod eraill yn y boblogaeth gyffredinol yn enwedig plant ifanc, pobl sydd â chyflyrau niwroddatblygiadol eraill, a chyflyrau niwroseiciatrig yn dangos yr ymddygiadau hyn hefyd.
Mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd wedi bod ar flaen y gad o ran ymchwil ar ymddygiad ailadroddus ers 2007. Cafodd yr Holiadur Ymddygiadau Ailadroddus gwreiddiol (RBQ-2) sy’n cael ei lenwi gan riant a'r Holiadur Ymddygiadau Ailadroddus 2A (RBQ-2A), fersiwn hunan-adrodd ar gyfer pobl ifanc ac oedolion eu datblygu ar y cyd â chydweithwyr ym Mhrifysgol Durham a Phrifysgol Newcastle. Mae'r RBQ-3 yn fersiwn newydd, gwell.
Lawrlwythwch yr holiadur
Bu galw mawr am yr holiaduron ymddygiad ailadroddus yn rhyngwladol ac maent wedi'u cyfieithu i lawer o ieithoedd. Mae'r RBQ-3 ar gael ar hyn o bryd mewn Tsieinëeg, Almaeneg, Perseg, Sbaeneg a Thwrceg.
Gall clinigwyr, ymarferwyr, ymchwilwyr ac eraill sydd â diddordeb mewn cael mynediad i'r RBQ-3 ei lawrlwytho am ddim. Mae copïau blaenorol o'r RBQ-2 a'r RBQ-2A hefyd ar gael drwy'r un ddolen.
Holiadur Ymddygiad Ailadroddus - 3 (RBQ-3)
Mae datblygiad yr RBQ-3 wedi'i arwain gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae'n disodli RBQ-2 ac RBQ-2A. Cafodd ei lunio mewn ymateb i geisiadau clinigwyr ac ymchwilwyr am ddau welliant i'r mesurau presennol:
- Roeddent eisiau holiadur 'oes' a allai fesur ymddygiadau ailadroddus drwy gydol oes, gyda chwestiynau a oedd yn briodol i blant ac oedolion.
- Roeddent eisiau un mesur y gellid ei ddefnyddio ar gyfer hunan-adrodd ac ar gyfer adrodd gan eraill (e.e. gan riant neu roddwr gofal).
Mae'r Holiadur Ymddygiadau Ailadroddus 3 (RBQ-3) yn cyflawni'r ddau faen prawf hyn a bydd yn galluogi mwy o hyblygrwydd i glinigwyr sydd am ddeall proffil unigolyn o ran eu hymddygiad ailadroddus.
Bydd hefyd yn agor mwy o gyfleoedd i ymchwilwyr sydd am fesur ymddygiad ailadroddus, yn enwedig mewn astudiaethau hydredol. Gall y fersiynau hunan-adroddiad ac adrodd-gan-eraill eu defnyddio gyda'i gilydd wrth gymharu atebion mwy nag un hysbysydd.