Integreiddio gwybodaeth am ffrwythlondeb i fynd i'r afael ag argyfwng cyfradd geni Japan
Mae ein hymchwilwyr wedi gwella gwybodaeth am ffrwythlondeb yn Japan i helpu i gynyddu ei chyfradd genedigaethau sy'n gostwng.
Mae cyfraddau genedigaethau wedi bod yn gostwng ledled y byd, gan achosi pryder am genedlaethau'r dyfodol ac effeithiau economaidd. Mae Japan wedi profi gostyngiad amlwg yn ei chyfradd genedigaethau dros y 50 mlynedd ddiwethaf.
Cyfrannodd ymchwilwyr o grŵp ymchwil Astudiaethau Ffrwythlondeb yr Ysgol Seicoleg gipolwg gwerthfawr ar wybodaeth am ffrwythlondeb sy'n helpu Japan i gynyddu cyfraddau geni a chyflymu amseriad genedigaethau.
Canfu'r tîm ymchwil fod diffyg gwybodaeth am ffrwythlondeb yn cael effaith negyddol ar iechyd ffrwythlondeb mewn poblogaethau. Arweiniodd eu hymchwil at newid sylweddol mewn polisi, gyda Llywodraeth Japan yn darparu ymyriadau addysgol i wella canlyniadau ffrwythlondeb.
Deilliannau ymchwil allweddol
- Cynnydd yn ymwybyddiaeth y cyhoedd am ffrwythlondeb
- Gwreiddio addysg ffrwythlondeb ym mholisïau ffrwythlondeb Japan
- Cyfradd genedigaethau uwch 12 mis ar ôl yr astudiaeth am fod rhieni'n penderfynu cael plentyn yn gynt
Canfyddiadau ymchwil allweddol yn Japan
Mae addysg ffrwythlondeb yn cyflymu amseriad genedigaethau ymhlith pobl sy'n bartneriaid; dangosodd yr ymchwil fod gan bobl Japan wybodaeth wael iawn am ffrwythlondeb o'u cymharu â chenhedloedd datblygedig eraill.
Mae hyn yn arbennig o bwysig, gan fod pobl yn Japan yn tueddu i briodi a cheisio cael babi yn ddiweddarach mewn bywyd, ac os ydynt yn cael problemau, rhaid aros amser hir am ofal ffrwythlondeb. Yn sgil canfyddiadau ein hymchwil, cyflwynodd Llywodraeth Japan fentrau addysg ffrwythlondeb mewn ysgolion a lleoliadau cymunedol.
I fod yn fwyaf effeithiol, argymhellodd yr ymchwil y dylai ymyriadau addysgol dargedu ysgolion a'r gymuned. Edrychodd hefyd ar sut roedd gwybodaeth am ffrwythlondeb yn effeithio ar benderfyniadau atgenhedlu, gan gynnwys penderfyniadau i oedi cael plentyn cyntaf tan ar ôl 35 oed. Amlygodd yr astudiaeth fod addysg ffrwythlondeb i oedolion cynnar yn gysylltiedig â dechrau teulu'n gynharach.
Er mwyn ymestyn eu hymchwil, mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr yn Japan, bu'r tîm yn ystyried effaith gwell addysg ffrwythlondeb ar wybodaeth ffrwythlondeb 1,455 o ddynion a menywod oedran magu plant yn Japan oedd yn bwriadu cael plant. Canfu'r ymchwilwyr fod gwybodaeth am ffrwythlondeb yn cynyddu yn dilyn addysg ffrwythlondeb.
Gwneud gwahaniaeth
Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd am ffrwythlondeb
Cafodd yr ymchwil sylw ar draws cyfryngau newyddion cenedlaethol Japan yn ogystal â chael ei chyflwyno i Fwrdd Cynghori'r Llywodraeth ar Ffrwythlondeb Isel yn 2013.
Gwreiddio addysg ffrwythlondeb ym mholisïau ffrwythlondeb Japan
Yn dilyn y canfyddiadau ymchwil a'r sylw dilynol yn y cyfryngau, yn 2015 cynhwysodd Llywodraeth Japan addysg ffrwythlondeb yn ei pholisi i fynd i'r afael ag argyfwng ffrwythlondeb y genedl. Y nod oedd cyflawni cyfartaledd o 70% o wybodaeth am ffrwythlondeb o fewn y boblogaeth erbyn 2020 fel targed. Sbardunodd y polisi gyfres o wrthfesurau i ymdrin â'r diffyg gwybodaeth, gan gynnwys rhaglen addysg newydd.
Rhoi polisi addysg ffrwythlondeb ar waith yn Japan
Cyflwynodd polisi 2015 ymyriadau ledled Japan, gyda strategaethau cenedlaethol yn ogystal â rhai lleol yn cael eu rhoi ar waith. Ar lefel genedlaethol, cynhyrchodd Cymdeithas Obstetreg a Gynaecoleg Japan bamffled ar ffrwythlondeb. Eglurwyd y dull hwn o addysgu pobl ifanc yng Nghynnwys Penodol polisi addysg ffrwythlondeb y Llywodraeth yn 2015. Ar lefel leol, roedd rhaglen addysg y Llywodraeth yn cynnwys amrywiol fesurau creadigol wedi'u hanelu at gynulleidfaoedd ysgol a chymunedol.
Cael plant yn gynt yn dilyn addysg ffrwythlondeb
Ar ôl 12 mis roedd mwy o enedigaethau yn y grŵp a addysgwyd ond erbyn 24 mis roedd gan bob grŵp yr un nifer o enedigaethau. Mae'r canfyddiad hwn yn golygu bod pobl ym mhob grŵp wedi cael yr un nifer o enedigaethau ond bod y grŵp a addysgwyd wedi eu cael yn gynt yn eu 30au. Pennwyd bod hyn yn ganlyniad cadarnhaol o ystyried y dirywiad mewn ffrwythlondeb sy'n gysylltiedig ag oed a chymhlethdodau beichiogrwydd. Roedd hefyd yn golygu cyflymu amseru genedigaethau heb gynyddu'r nifer o enedigaethau, sy'n bwysig o ran gorboblogi byd-eang.
Publications
- Maeda, E. et al., 2016. Fertility knowledge and the timing of first childbearing: a cross-sectional study in Japan. Human Fertility 19 (4), pp.275-281. (10.1080/14647273.2016.1239033)
- Maeda, E. et al., 2016. Effects of fertility education on knowledge, desires and anxiety among the reproductive-aged population: findings from a randomized controlled trial. Human Reproduction 31 (9), pp.2051-2060. (10.1093/humrep/dew133)
- Maeda, E. et al., 2015. A cross sectional study on fertility knowledge in Japan, measured with the Japanese version of Cardiff Fertility Knowledge Scale (CFKS-J). Reproductive Health 12 (1) 10. (10.1186/1742-4755-12-10)
- Bunting, L. E. , Tsibulsky, I. and Boivin, J. 2013. Fertility knowledge and beliefs about fertility treatment: findings from the International Fertility Decision-making Study. Human Reproduction 28 (2), pp.385-397. (10.1093/humrep/des402)