Gosod ymgysylltu â'r cyhoedd ar flaen y gad o ran newid polisi amgylcheddol
Roedd ein hymchwil yn gyrru penderfyniadau llunwyr polisïau drwy ddatgelu cefnogaeth gyhoeddus gref i rai o'r newidiadau mawr sydd eu hangen er mwyn i'r DU gyrraedd ei tharged sero net.
Er mwyn cyflawni ymrwymiad sero-net y DU i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, mae angen newidiadau helaeth, nid yn unig i’r seilwaith ynni ond hefyd i arferion ac ymddygiad cymdeithasol pobl. Dangosodd ein hymchwil y ceir cefnogaeth fawr gan y cyhoedd i newid i ffynonellau ynni adnewyddadwy ac i economi fwy cynaliadwy a llai gwastraffus, er gwaethaf canfyddiad cyffredin bod y cyhoedd yn gwrthwynebu newid o'r fath.
Newidiodd hyn feddylfryd llunwyr polisïau'r DU a gwreiddio ymgysylltiad y cyhoedd o fewn Strategaeth Adnoddau a Gwastraff Lloegr a Strategaeth Ynni'r Alban. Cafodd sylw’n rhyngwladol hefyd oherwydd iddo gael ei gynnwys yng nghanllawiau newydd y Cenhedloedd Unedig ar gyfathrebu am newid yn yr hinsawdd.
Canfyddiadau ymchwil allweddol
- Parodrwydd cyhoeddus cryf i symud i ffwrdd o ddefnyddio ffynonellau ynni llygredig cyfyngedig a dulliau gwastraffus o ddefnyddio ynni
- Awydd y cyhoedd am system ynni well i Brydain a fydd yn mynd i'r afael ar yr un pryd â'r argyfwng hinsawdd, diogelwch ynni a fforddiadwyedd.
Ymchwil Sylfaenol
Cefndir
Yn 2019, dangosodd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru ddiffyg o bron i draean yn nifer y mabwysiadwyr ers 2014, gyda chynnydd dilynol o 64% yn nifer y plant oedd yn aros am deulu. Bu cynnydd hefyd yn nifer y plant 'blaenoriaeth' oedd yn aros dros 12 mis i ddod o hyd i deulu.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- plant 4 oed a throsodd
- grwpiau o frodyr a chwiorydd
- plant ag anghenion meddygol neu ychwanegol.
Yn ogystal, amlygodd adroddiad yr Adran Addysg yn 2014 yr effaith ar blant a rhieni pan fyddai lleoliadau mabwysiadu yn methu. Mae hyn yn digwydd yn aml pan fydd plant yn dangos lefelau eithriadol o uchel o ymddygiad heriol (e.e. ymddygiad ymosodol, trais, hunan-niweidio) a’r rhieni'n derbyn cymorth proffesiynol annigonol.
Ymchwil dilynol
Edrychodd ymchwil dan arweiniad yr Athro Katherine Shelton ar y ffactorau sy'n nodweddu ac sy'n sail i lwyddiant lleoli cynnar mewn teuluoedd a fabwysiadodd blentyn neu grŵp o frodyr a chwiorydd o Gymru.
Gwnaed hyn drwy:
- Arloesi Astudiaeth Garfan Fabwysiadu Cymru, oedd yn dilyn sampl cynrychioliadol o deuluoedd dros y 5 mlynedd gyntaf ar ôl mabwysiadu plentyn neu grŵp o frodyr a chwiorydd.
- Dangoswyd bod ymddygiad ac anhwylderau iechyd meddwl y sawl a fabwysiadwyd yn parhau'n uchel yn gyson dros gyfnod o 4 blynedd a bod adfyd cynnar (e.e. esgeuluso a/neu gamdriniaeth) yn gysylltiedig â phroblemau cynyddol.
- Roedd rhianta mabwysiadol cynnes yn gysylltiedig â gostyngiad amlwg yn symptomau’r plant o broblemau iechyd meddwl dros amser.
Amlygodd y canfyddiadau werth gwybodaeth fywgraffyddol am fywyd y plentyn cyn ac yn ystod gofal i gefnogi gofalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol i reoli cyfnod pontio plentyn i deulu mabwysiadol, gan gynnwys cymorth ar ôl mabwysiadu.
Gwerthoedd hanfodol i brosiectau gael eu derbyn
Nodwyd cyfres o werthoedd sylfaenol gan y tîm ymchwil y byddai angen eu bodloni er mwyn i broses drawsnewid y system ynni a defnydd gwyrddach fod yn dderbyniol yn gymdeithasol. Y gwerthoedd hyn yw:
- Dylunio cynnyrch mwy effeithlon a llai gwastraffus
- Gwarchod yr amgylchedd
- System ddiogel, ddibynadwy a fforddiadwy
- Mae’n rhaid i'r newid fod yn deg
- Peidio â chyfyngu ar ymreolaeth a rhyddid personol pobl
- Gwelliant parhaus a chydnabyddiaeth o gydgysylltiad
Cwrdd â’r tîm
Cysylltiadau allweddol
Yr Athro Nick Pidgeon
- pidgeonn@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 4567
Dr Christina Demski
- demskicc@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6020
Sylw yn y wasg
Mae'r ddau brosiect ymchwil wedi denu diddordeb yn y cyfryngau o bob rhan o'r byd, yn enwedig wrth flaenoriaethu newid yn yr hinsawdd ym mholisïau'r rhan fwyaf o lywodraethau.
Cyhoeddiadau
- Cherry, C. et al. 2018. Public acceptance of resource-efficiency strategies to mitigate climate change. Nature Climate Change 8 , pp.1007-1012. (10.1038/s41558-018-0298-3)
- Peake, L. et al., 2018. By popular demand: what people want from a resource efficient economy.
- Demski, C. , Pidgeon, N. and Spence, A. 2017. Effects of exemplar scenarios on public preferences for energy futures using the my2050 scenario-building tool. Nature Energy 2 (4) 17027. (10.1038/nenergy.2017.27)
- Demski, C. et al. 2015. Public values for energy system change. Global Environmental Change 34 , pp.59-69. (10.1016/j.gloenvcha.2015.06.014)
- Demski, C. , Spence, A. and Pidgeon, N. F. 2013. Transforming the UK energy system: public values, attitudes and acceptability - summary findings from a survey conducted August 2012. Project Report.London: UKERC
Rhannu